• Dyddiad
    4th Mawrth 2022 at 12:30yp
  • Man cyfarfod
    The Old Bailey
  • Gwesteiwr
    City of London
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Cinio i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda Siryf Dinas Llundain.

Mae’r cinio’n gyfle i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, Wythnos Cymru Llundain a’r cylymau busnes, dinesig a diwylliannol rhwng Dinas Llundain a Chymru.

Darpara Wythnos Cymru Llundain gyfle i sefydliadau yng Nghymru hyrwyddo’u cynnyrch a gwasanaethau, a datblygu cynulleidfaoedd, partneriaethau a chysylltiadau newydd a’u canolfannau yn Llundain.

Mae Dinas Llundain yn falch o’i Phartneriaeth Dinas gyda Chaerdydd ac o barhau i gryfhau’i chylymau â Chymru i wella ysbryd cystadlu byd eang y Deyrnas Unedig.

Cafodd yr Henadur a Siryf Alison Gowman ei hethol fel un o ddau Siryf Dinas Llundain ar gyfer 2021 / 2022. Rhan allweddol y Siryf yw cefnogi’r Arglwydd Faer fel llysgennad byd eang ar gyfer sector ariannol a gwasanaethau proffesiynol y DU a Chorfforaeth Dinas Llundain wrth hybu a phleidio dros y Ddinas fel y ganolfan fyd eang arweiniol ar gyfer busnes, a gwasanaethau proffesiynol, technegol ac ariannol.

Mae dau Siryf Dinas Llundain yn cynnal rheol y gyfraith fel gwarchodwyr yr Old Bailey, yn cysylltu â a chefnogi Barnwyr EM a chefnogi’r Arglwydd Faer yn eu dyletswyddau dinesig yn ogystal ag wrth hybu’u Thema Maerol, sef ar gyfer 2021 / 2022 yw Pobl a Phwrpas – Buddsoddi mewn yfory gwell gan ganolbwyntio ar sgiliau, symudedd cymdeithasol a chyllid cynaliadwy.

Mae’r cinio hwn yn gwasanaethu fel cyfle i ddwyn ynghyd pawb sydd â diddordeb yn y pwnc uchod, taflu golau ar yr Old Bailey a gwaith Corfforaeth Dinas Llundain a’r Arglwydd Faer.