Dau ddiwrnod o ‘Ddathlu Rygbi’ yn Old Deer Park, yn dechrau gyda chinio gala ysblennydd ddydd Gwener 6 Mawrth, gyda Shane Williams (arwr rygbi’r Llewod a Chymru) wrth y llyw- ac yna gweld y gêm fawr yn fyw ar sgrin ddydd Sadwrn – manylion fan’ma – gyda chwrw, bwyd ac adloniant bendigedig!
Beth am fwynhau noson yng nghwmni Shane Williams.
Un o chwaraewyr rygbi mwyaf enwog Cymru yw Shane, wedi chwarae i’r Llewod a’r Barbariaid a hefyd yn MBE. Cafodd Shane yrfa rygbi proffesiynol hir a llwyddiannus fel asgellwr i’r Gweilch a thîm rygbi cenedlaethol Cymru, cafodd dymor llwyddiannus a phleserus hefyd yn Siapian gyda’r Mitsubishi Dynaboars.
Shane sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o geisiau dros Gymru, ac mae’n bedwerydd yn rhestr ryngwladol gemau prawf rygbi. Ef yw’r asgellwr sydd wedi cynrychioli Cymru fwyaf ac fe’i hystyrir yn un o’r asgellwyr gorau erioed.
Yn 2008, dyfarnodd World Rugby Shane yn Chwaraewr y Flwyddyn ac yna ym mis Tachwedd 2016, cafodd ei urddo i Oriel Anfarwolion Rygbi’r Byd.
Felindre yw prif ganolfan gancr Cymru, yn darparu gofal, cymorth a thriniaeth i gleifion cancr a’u teuluoedd.
Mae Clwb Rygbi Cymry Llundain yn ymfalchïo i fod yn rhan o gnud llewod Felindre, gan eu helpu i gefnogi’r rheini sydd yn byw gyda chancr.
Cynhelir y digwyddiadau ar y ddau ddiwrnod yn ein pabell fawr ysblennydd – neilltuwch eich lle’n gynnar, mae’r ddau ddigwyddiad bob amser yn boblogaidd iawn!
Mae tocynnau ar gael i’r naill ddigwyddiad neu’r llall neu i’r ddau ohonyn nhw ar y cyd:
- Cinio Gala @ £75,
- Gweld y gêm fawr ar y sgrin @ £20,
neu werth arbennig, tocyn cyfunol am £90!