Mae’r dau ddiwrnod o ‘Ddathlu Rygbi’ yn Old Deer Park, yn dechrau gyda chinio gala ysblennydd ddydd Gwener 6 Mawrth, yng nghwmni Shane Williams (arwr rygbi’r Llewod a Chymru) - ac yna gweld y gêm fawr yn fyw ar sgrin ddydd Sadwrn – manylion fan’ma – gyda chwrw, bwyd ac adloniant bendigedig!
Cynhelir y digwyddiadau ar y ddau ddiwrnod yn ein pabell fawr ysblennydd – neilltuwch eich lle’n gynnar, mae’r ddau ddigwyddiad bob amser yn boblogaidd iawn!
Mae dydd Sadwrn – Diwrnod Rhyngwladol yn Cymry Llundain yn dechrau gyda gêm rygbi elusennol rhwng XV o chwaraewyr gwadd Headway v XV Clwb Rygbi Cymry Llundain – yn dechrau am 1.15pm, drysau’n agor ganol ddydd.
- mae XV o chwaraewyr gwadd Headway yn cynrychioli’r elusen DU eang sydd yn gweithio i wella bywyd ar ôl anaf i’r ymenydd. Drwy ei rwydwaith o fwy na 125 o grwpiau a changhenau ar draws y DU, darpara cymorth, gwasanaethau a gwybodaeth i oroeswyr anaf ar yr ymenydd, eu teuluoedd a gofalwyr, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn y byd iechyd a’r byd cyfreithiol.
Dilynnir y gêm gan y gystadleuaeth Chwe Gwlad mawr ei disgwyl rhwng Lloegr a Chymru, yn fyw ar y sgriniau mawr y tu fewn i’n pabell fawr enwog – gyda mwy na 2,000 o gefnogwyr – y profiad diwrnod gêm gorau’r tu allan i’r stadiwm!
Yn wir, fel dywedodd un unigolyn hapus a oedd yn bresennol; “Mae’r awyrgylch yn y babell fawr yr un mor gyfareddol a chyfrous a bod yn y gêm ei hunan!”.
Yn dilyn y gêm, bydd y band 'Breaks' sydd yn cael clod gan bawb; yn arwyr eu hunain, yn darparu cerddoriaeth fyw – cyfuniad o alawon Cymreig a chaneuon roc clasurol i ddawnsio iddyn nhw trwy gydol y nos!
Mae tocynnau ar gael i’r naill ddigwyddiad neu’r llall neu i’r ddau ohonyn nhw ar y cyd:
- Cinio Gala @ £75,
- Gweld y gêm fawr ar y sgrin @ £20,
neu werth arbennig, tocyn cyfunol am £90!
A, os ydych yn mynd i’r gêm yn Twickenham gallwch brynu tocyn mynediad wedi’r gêm i’r babell fawr am ddim ond £10!!
Drysau’n cau am 9 30pm.