• Dyddiad
    7th Mawrth 2022 at 05:00yp
  • Man cyfarfod
    Earls Court
  • Gwesteiwr
    The Skills Centre
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Gwahoddir gwesteion i ddathlu agor ein Canolfan Sgiliau yn Earl’s Court!

Wedi’i sefydlu ac yn cael ei redeg gan y dyn busnes o Sir Benfro, Jon Howlin, y Skills Centre – Partner hirdymor Wythnos Cymru Llundain – yw un o’r cyflenwyr arweiniol hyfforddiant sgiliau adeiladu yn y Ddinas – a chyda chenhadaeth arbennig i greu gwerth cymdeithasol sylweddol ar gyfer cymunedau ledled y ddinas.

Mae agor canolfan hyfforddi ddiweddaraf y Skills Centre yn Earls Court yn gyfle gwych i’r gymuned leol ddod ynghyd a dysgu mwy am y gwaith mae’r ganolfan yn ei wneud yn yr ardal a’r bobl y mae eisoes wedi’u helpu i ddechrau gyrfaoedd newydd ym myd adeiladu.

Yn y digwyddiad hwn, bydd ein pobl diwydiant dan hyfforddiant yn rhannu’u teithiau ac yn darparu mewnwelediadau i fywyd yn y ganolfan newydd ei hagor, ynghyd â chyflwyniad i’r llwybrau sydd ar gael ar gyfer gyrfa cynaliadwy.

Mae’r ganolfan hon wrth wraidd gwaith datblygu mawr o fewn y rhanbaeth, ac yn ei sgil mae cyfleoedd, nid yn unig i ddysgu sgiliau newydd ym myd adeiladu, ond hefyd i gymryd mantais o’r cyfleoedd swyddi bendigedig o fewn y rhanbarth. Ni fu adeg well erioed i ymuno â’r diwydiant adeiladu.

Bydd contractwyr a datblygwyr hefyd yn ymuno â ni, a byddant yn rhannu’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd, a rhoi mewnwelediad i yrfaoedd ym myd adeiladu.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno!