Yn dilyn llwyddiant y llynedd o’r fenter Tynnu llun:Cymru, mae Wythnos Cymru Llundain unwaith eto yn gweithio ar y cyd a’r arlunydd Cymreig Nichola Hope i greu llyfr sydd yn helpu arddangos diwylliant Cymru drwy ei dapestri cyfoethog o eiriau a chelf.
Casgliad o weithiau yw Voices Lleisiau lle mae darluniau a geiriau’n gwrthdaro.
Gwnaethom wahodd detholiad o ysgrifennwyr a beirdd Cymreig i ymateb i weithiau celf gwreiddiol gan arlunwyr Cymreig.
Mae’r llyfr hwn yn dathlu lleisiau Cymreig – cenedl o adroddwyr storiau yw Cymru – mae adrodd storiau’n grymuso gan ei fod yn rhoi llais inni; mae’n darparu safbwyntiau newydd ac yn hybu creadigrwydd. Bydd arlunwyr yn aml yn adrodd stori drwy ddarluniau, ac yn y casgliad hwn mae ymatebion yr ysgrifennwyr yn cyfoethogi ein geirfa gweledol, ac yn gwahodd safbwyntiau cyffrous newydd, tra’n datgelu haenau newydd o ystyr.
Mae pob un o’r cyfranogwyr wedi gwneud hynny o wirfodd; yr arlunwyr, yr ysgrifennwyr, y cyfieithwyr, ac hefyd ein ffrind annwyl, y dylunydd Dave Hopkins, a ddyluniodd y llyfr inni. A buom yn ffodus iawn i ddenu cefnogaeth anhygoel ein noddwr, Lexington Corporate Advisory i sicrhau na fu unrhyw gost inni wrth gyhoeddi’r llyfr hardd hwn – gan felly alluogi i’r holl elw a wneir wrth werthu’r llyfr fynd yn uniongyrchol i elusen dynodedig Wythnos Cymru Llundain, Felindre.
Bydd y digwyddiad lansio swyddogol yn Noson Agor Arddangosfa Flynyddol Celf Cyfoes Cymreig, y’i gynhelir bob blwyddyn yng Nghanolfan Cymry Llundain.
Gallwch archebu’ch copi eich hun o’r rhifyn cyfyngedig hwn ar y noson, y pris @ £24.99.
Cafodd llawer o’r peintiadau / lluniau eu rhoi’n hael gan yr arlunwyr, a chânt eu gwerthu mewn ocsiwn, eto er budd Felindre – darperir manylion cyn hir.
(Os na allwch fod yn bresennol ar y noson, cadwch olwg ar twitter @welsh_art neu @walesweeklondon @wythnoscymllun neu ar instagram @welsh.art ar gyfer manylion ar sut i archebu’ch copi eich hun.)
Croeso i bawb – rhowch wybod inni os hoffech ymuno â ni drwy ddefnyddio’r ddolen e-bost uchod.
Edrychwn ymlaen at eich gweld ar y noson.