• Dyddiad
    18th Chwefror 2022
  • Man cyfarfod
    London Welsh Centre, 157 – 163, Grays Inn Road WC1X 8UE
  • Gwesteiwr
    Wales Week London / Nichola Hope
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

THIS SPECIAL AUCTION IS NOW LIVE HERE - GET BIDDING TO OWN A UNIQUE COLLECTION OF WELSH ART!

Ar gyfer Wythnos Cymru Llundain eleni, cyffrous yw datgan bod Wythnos Cymru Llundain ar y cyd â’r arlunydd Cymreig, Nichola Hope, yn rhedeg Tynnwch lun : Cymru, taith llyfr braslunio arlunwyr Cymru o amgylch Cymru.

Comisiynom lyfrau braslunio o waith llaw’r arlunydd Cymreig a gwneuthurwr llyfrau, Carole King o Nant Designs, sydd yn teithio o amgylch Cymru, gan ymweld ag ystod o arlunwyr Cymru, a fydd yn llenwi’r llyfrau braslunio gyda’u lluniau, brasluniau a pheintiadau eu hunain.

Arddangosir y llyfr braslunio yn Arddangosfa Celf Cyfoes Gymreig flynyddol Wythnos Cymru Llundain, yn cael ei chynnal a’i rhedeg bob blwyddyn gan ein ffrindiau gwych yng Nghanolfan Cymry Llundain, dros ddydd Gwener y 18fed tan ddydd Sul 20fed Chwefror 2022.

Bydd y rhain yn set unigryw ac arbennig o lyfrau braslunio (wedi’u cyflwyno mewn blwch cyflwyno pwrpasol) – gan arddangos amrywiaeth, dawn greadigol ac ansawdd celf Gymreig.

Mae’r arlunwyr sydd yn cyfranogi yn cynnwys Kevin Sinnott, Alan Salisbury, Emrys Williams, Aiden Myers, Nichola Hope, Melanie Wotton, Catrin Williams, Meinir Mathias, Sarah Hope, Steffan Jones-Hughes, Elfyn Lewis, Philippa Robbins, a llawer mwy.

Caiff y llyfrau braslunio yn y pendraw eu gwerthu mewn ocsiwn i godi arian i bartner elusen swyddogol Wythnos Cymru Llundain, Felindre – caiff manylion ar sut i gynnig eich cynigion (mewn person a / neu ar-lein) eu datgan cyn hir. Bydd yr ocsiwn yn digwydd yn y Private View, noson agoriadol yr arddangosfa, yng Nghanolfan Cymry Llundain ddydd Gwener 18 Chwefror.

Mae diolch arbennig yn mynd i bob un o’r arlunwyr Cymreig, sydd yn hael wedi rhoi’u hamser a’u gwaith celf i’r fenter arbennig hon – yn ogystal ag i Ganolfan Cymry Llundain, sydd yn parhau i gefnogi’r celfyddydau yng Nghymru mewn ffordd mor gadarnhaol a rhagweithiol – ac wrth gwrs i Nichola Hope am ei hegni a’i brwdfrydedd i wireddu’r prosiect.

Welsh artists Kevin Sinnott
Welsh artist Nichola Hope