• Dyddiad
    20th Chwefror 2025 at 04:00yp
  • Man cyfarfod
    Runway East Bloomsbury, 24-28 Bloomsbury Way, London WC1A 2SN
  • Gwesteiwr
    S&You Technology
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Ymunwch â ni yn Runway East Bloomsbury ar gyfer ein digwyddiad cyffrous 'Nodau Digidol a Deallusrwydd Artiffisial (AI) – yr hyn sydd angen i chi wybod amdano’.

Byddwch yn barod ar gyfer ymdrochi ym myd digidol ac AI wrth i ni archwilio’r tueddiadau a’r strategaethau diweddaraf.

Gyda thwf cyflym ym maes AI, bu’r rhan fwyaf o gwmnïau yn ystyried eu nodau digidol a deallusrwydd artiffisial – os ydy hyn yn swnio’n gyfarwydd, dyma’r digwyddiad i chi.

Bydd arbennigwyr o S&You Technology, Mobile Cloud ac Admiral yn cynnig mewnwelediad i’r sectorau twf a galwedigaethau yng Nghymru, a allai gael eu heffeithio a sut allan nhw symud ymlaen.

Yn ystod y cyflwyniad, anogir cwestiynau, sylwadau a thrafodaethau o’r ystafell, gan gynnwys unrhyw beth ynglŷn â phroffesiwn, diwydiant neu sector penodol – ac wrth gwrs, unrhyw beth ynghylch eich helpu gyda’ch nodau busnes AI.

Mae Mobile Cloud yn arwain ym maes trefnu llwyfannau AI ac Awtomatiaeth uwch sydd yn cefnogi busnesau i weithio’n fwy effeithiol a darparu ffyrdd newydd o weithio, gyda phrofiad o brosiectau dyrys ac ar raddfa fawr ar gyfer cleientiaid enwog byd-eang yng Ngogledd America a ledled Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.

Bellach, mae Now S&You Technology yn gweithio gyda Mobile Cloud i gyflenwi atebion staffio 360-gradd gan ddefnyddio cyfuniad o adnoddau digidol a dynol o’r dechrau’n deg i’r diwedd i’w gleientiaid am y tro cyntaf. Bydd hyn yn caniatáu S&You i gynnig datrysiadau adnoddau digidol pen i ben i’w gleientiaid, gyda’r broses gyfan wedi’i threfnu, ei rheoli ac wedi’i staffio’n llawn.

Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i rwydweithio gydag unigolion cytûn ac elwa gan fewnweliadau gwerthfawr.

Fe welwn ni chi yno!