• Dyddiad
    28th Chwefror 2023 at 04:30yp
  • Man cyfarfod
    Anomalous, 38 Pentonville Rd, London N1 9HF
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Cynhelir gan asiantaeth brandio digidol flaenllaw, Bluegg.

Yn dilyn 20 mlynedd o ddysgu, adeiladu a choethi prosesau a thechnegau, mae’r tîm yn Bluegg yn dwyn arweinyddion busnes ynghyd, arweinyddion sydd eu hunain wedi wynebu a gorchfygu’r holl heriau busnes sydd wedi cwestiynnu’u brandiau.

Yn cael ei gynnal gan Mike Jordan, bydd y drafodaeth banel hon yn rhoi mewnwelediad i fusnesau o amrywiol sectorau sydd i gyd wedi defnyddio’u brandiau i atgyfnerthu, symbylu, adeiladu a thyfu.

Gyda’r byd yn brysur symud yn ei flaen, arferion gweithio a phrynu yn newid, disgwyliadau’n symud; i gyd wedi’i gyflymu gan flynyddoedd y pandemig, mae llawer o fusnesau sefydledig yn ystyried gwir werth eu brandiau; gan ofyn a yw’n cario’r un pwysau, a yw’n berthnasol o hyd neu hyd yn oed yn effeithiol heddiw, yn y byd ôl bandemig.

Mae brandiau tarfu yn dal yn gwneud eu gorau glas i siglo’r goeden gydag egin fusnesau yn parhau i wthio negeseuon dilysrwydd a chysylltiad dynol, tra bod diwylliant mewnol wedi cael ei drawsnewid gan bolisiau WFH a dyheuad am gydbwysedd gwaith / bywyd gwell.

Yn ystod y digwyddiad hwn byddwn yn archwilio’r heriau busnes sydd yn arwain at gwestiynau ynghylch effeithiolrwydd brand sefydliad. Gwnawn ofyn beth sydd yn sbarduno newid, sut y gellir gweithredu newid yn llwyddiannus, a pha ran mae brand digidol cwmni yn ei chwarae.

Gwnawn siarad â phanel o arweinyddion busnes sydd wedi cymryd eu busnesau trwy’r newidiadau hyn. Cawn glywed am eu cymhelliant, y gwersi a ddysgon nhw a’r effaith y mae newid brand wedi’i gael ar eu busnesau.

Gwnawn hefyd fwrw golwg ar bwysigrwydd ‘brand’ er mwyn diffinio diwydiant cwmni a sut y gallai ffocws wedi’i symud i gadw i fyny â disgwyliadau’u cyflogeion sy’n newid.