Mae Vessel Gallery yn cyflwyno Amphore Métaphore, ail gyfran a golygiad dethol yr arddangosfa unigol mawreddog gan Philip Baldwin a Monica Guggisberg, sydd ymysg yr artistiaid rhyngwladol blaenllaw sydd yn gweithio gyda gwydr.
Ar gyfer ail agor i’r cyhoedd yn 2022, a chydredeg yn berffaith gyda Blwyddyn Gwydr y Cenhedloedd Unedig, gwnaeth y Musée du Verre de Conches newydd wahodd yr artistiaid i arddangos, gan rhoi carte blanche creadigol iddyn nhw, ar gyfer arddangosfa agoriadol yr amgueddfa. Eu hymateb oedd i archwilio arwyddocad hynafiadol yr ‘amphora’.
Mae’r cyfrannau canlyniadol a greuwyd yn archwilio cyfaredd barhaus yr artistiaid gyda’r gwrthrych gwylaidd hwn a’i hanes. Nid yn unig bydd pob un yn datgelu synnwyr parchedig ofn Baldwin & Guggisberg at harddwch y llestr – ynghyd â’i briodas berffaith o ffurf a swyddogaeth – ond hefyd darddiad llawer mwy hynafol nad oedden nhw wedi dychmygu cyn hynny.
Yn syfrdanol cymera eu taith nhw ni’n ôl 20,000 o flynyddoedd, ac yn ystod y daith gofynnon nhw i ni fyfyrio ar y ffaith bod y llestr syml hwn gyda’i gromliniau ysgafn a’i waelod pigfain nodweddiadol, sydd yn ymddangos i fod yn ffurf mor gynhenid i fodau dynol, ei fod yn ailddigwydd tro ar ôl tro ar draws milenia a diwylliannau gwahanol, o Tseina i India a Siberia i’r Levant. Mae amlygu cymar cyson mor ddiamser, ond yn aml yn cael ei esgeuluso, o esblygiad dynol yn annog llawer o ystyriaeth, pam fod y ffiol syml hon a’i ffurf pigfain yn cyfarwyddo ein hanes, ac yn fwy cynnil, ein presennol.
Bu Philip Baldwin (g. 1947, Efrog Newydd) a Monica Guggisberg (g. 1955, Bern, Y Swistir) yn gweithio fel tîm ers 1980 a sefydlon nhw eu stiwdio cyntaf ddwy flynedd yn ddiweddarach yn y Swistir, cyn symud i Baris yn 2001. Ers 2015 bu eu canolfan yng Nghymru wledig, gan fwynhau golygfeydd dros y bryniau – y drydedd weithred mewn taith hir, grwydrol.
- Bydd yr arddangosfa’n rhedeg o 1 Mawrth - 11 Mawrth 2023, 10.00yb -6.00yh (4.00yp ddydd Sul).