• Dyddiad
    26th Chwefror 2024 at 06:00yp
  • Man cyfarfod
    Eversheds Sutherland Offices, 1 Wood St, London EC2V 7WS
  • Gwesteiwr
    Cardiff Metropolitan University
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Mae hanes Prifysgol Metropolitan Caerdydd, 'Cardiff Met', yn ymestyn yn ôl i 1865, pan agorodd yr Ysgol Gelf am y tro cyntaf yn yr Old Free Library yng Nghaerdydd.

Ers iddi sefydlu yn brifysgol, mae ei gwreiddiau wedi parhau yng Nghymru, tra’n darparu addysg sydd yn canolbwyntio ar ymarfer ac wedi’i chyfeiriadu’n broffesiynol i fyfyrwyr o bedwar ban y byd.

Ail enwyd y brifysgol nifer o weithiau dros y blynyddoedd, nes o’r diwedd iddi gymryd yr enw yr adnabyddwn hi heddiw, sef Prifysgol Metropolitan Caerdydd – os oeddech yn fyfyriwr gyda ni, hoffem ni i chi ymuno â ni am ddigwyddiad cymdeithasol anffurfiol yn ystod Wythnos Cymru Llundain.

· Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) (1996 - 2011)

· Athrofa Addysg Uwch Caerdydd (1988 - 1996)

· Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg (1976 - 1988)

· Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd (1971 - 1976)

· Coleg Addysg Caerdydd (1970 - 1976)

· Coleg Technegol Llandaff (1970 - 1976)

· Coleg Masnach (1968 - 1971)

· Coleg Morwrol Reardon Smith (1956 - 1970)

· Coleg Technoleg Bwyd Caerdydd (1957 - 1971)

· Coleg Technolegol Llandaff (1954 - 1970)

· Coleg Celf Caerdydd (1949 - 1976)

· Coleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd (1945 - 1970)

· Ysgol Coginio Morwrol (1911 - 1973)

· Coleg Technoleg a Masnach Caerdydd (1949 - 1961)

· Coleg Technolegol Caerdydd (1916 - 1949)

· Coleg Technolegol Caerdydd (1889 - 1916)

· Ysgol y Gwyddorau a Chelf Caerdydd (1865 - 1916)

Daw mwy o fanylion maes o law ond cysylltwch â ni os gwelwch yn dda drwy’r ddolen e-bost uchod os hoffech neilltuo lle/llefydd ar gyfer y noson – edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!