Mae Sylfaenwyr a Phartneriaid Wythnos Cymru yn Llundain yn dathlu ar ôl i Dan Langford gael ei anrhydeddu yng Ngwobrau Cyfarwyddwr Cymru’r Flwyddyn yn yr IoD â Gwobr y Cyfarwyddwr am Wythnos Cymru yn Llundain.

Daeth Gwobrau’r IoD, bellach yn ei seithfed flwyddyn, yn brif uchafbwynt ar galendr busnes Cymru, gan ddathlu llwyddiannau busnes ac arweinyddion ysbrydoledig ledled Cymru.

Gwobrwyir y categori Gwobr y Cyfarwyddwr yn ôl mympwy Cyfarwyddwr IoD Cymru mewn cydnabyddiaeth i gyfraniad yr enillydd i’w faes arbennig. Eleni, dewisodd y Cyfarwyddwr Robert Lloyd Griffiths y wobr i Dan Langford, nid yn unig am ei waith yn Acorn ond, ar y cyd â’r cyd- sylfaenydd, Mike Jordan, am hyrwyddo enw da Cymru drwy lansio Wythnos Cymru yn Llundain.

Mae’r rhaglen flynyddol o weithgareddau nad yw ar gyfer gwneud elw yn dathlu, arddangos a dylanwadu ar weithgareddau cymunedau Cymreig sydd eisoes yn bodoli yn Llundain, ac mae’n helpu dathlu a hybu Cymru ar ei gorau, yn Llundain. Modd yw i sefydliadau Cymreig ymhob sector i hybu eu cynhyrchion a’u gwasanaethau wrth ddatblygu cynulleidfaoedd, partneriaethau a chysylltiadau busnes newydd wedi’u lleoli yn Llundain.

Wrth ymateb i’r dyfarniad buddugol, meddai Dan Langford:

“Cafodd Mike a fi’n ein rhyfeddu gan lefel y gefnogaeth a’r ymgysylltu a ddenodd y fenter Wythnos Cymru yn Llundain.

“Eleni bu oddeutu 80 o weithgareddau a digwyddiadau yn Llundain o gylch Dydd Gŵyl Dewi, hwynt oll yn dathlu a hybu Cymru ar draws y byd busnes, y celfyddydau, y cyfryngau, chwaraeon, twristiaeth, bwyd a diod ac yn y blaen.

“Bu’r gefnogaeth a gawsom gan lu o noddwyr a llywodraethau’r DU a Chymru fel ei gilydd yn fendigedig. Rydym eisoes wedi cael nifer o drafodaethau gyda phartneriaid ynglŷn â rhaglen y flwyddyn nesaf, felly mae’n ymddangos nad oes unrhyw ddiffyg diddordeb o gwbl, sydd yn wych i Gymru.

“Yn seremoni’r gwobrau bu rhai enillwyr rhyfeddol; mae’r IoD yn wirioneddol wedi arddangos proffesiynoldeb, arbenigedd a chyfranogiadau pwysig y mae’r bobl hyn, eu timau a’u sefydliadau wedi gwneud i Gymru, o ran yr economi a’r gymdeithas yn ei chyfanrwydd.

“Llongyfarchiadau mawr iddynt ac i bob un a gyrhaeddodd y rownd derfynol, a hefyd i’r IoD am y cyfranogiad a’r gefnogaeth amhrisiadwy y maent yn parhau i ddarparu i fusnesau ledled y wlad.”