Mae pleser gan Wythnos Cymru yn Llundain, rhaglen digwyddiadau a gynhelir yn Llundain oddeutu Diwrnod Gŵyl Dewi bob blwyddyn i ddathlu a hyrwyddo popeth sy’n wych am Gymru, gyhoeddi mai Felindre yw ei Bartner Elusen Swyddogol ar gyfer 2019.

Daeth y rhaglen digwyddiadau uchel iawn ei pharch, sy’n gweithio’n glos gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn gyflym yn rhan annatod ymgyrchoedd hybu ym mhrifddinas y DU; dim ond dwy flynedd ers y cafodd ei lansio gyntaf gan ddau berson busnes, Dan Langford a Mike Jordan yn 2017.

Yn 2017 roedd eu rhaglen yn cynnwys 56 o weithgareddau a digwyddiadau gwahanol; yn dathlu ac yn hybu Cymru a chynhyrchion, diwylliant, busnesau a diwydiant Cymreig dros bythefnos ledled Llundain. Yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth 2018, cynyddodd hynny i 81 o ddigwyddiadau gwahanol a oedd yn cynnwys BAFTA Cymru, Cymdeithas Pêl Droed Cymru, Llywodraeth Cymru, Canolfan Cymry Llundain, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 10 Downing Street, y Shard a nifer o rai eraill.

Meddai Dan Langford, Cadeirydd Wythnos Cymru yn Llundain, “Bu’r cyfraniad a welom gan gymaint o unigolion a sefydliadau i ddod â’r rhaglen digwyddiadau at ei gilydd yn enfawr, ac rydym yn teimlo’n wylaidd braidd yr un fath gan y gefnogaeth anhygoel a gawsom gan y ddwy lywodraeth fel ei gilydd a’n noddwyr bendigedig. Yn sgil hynny, buom yn meddwl am gryn amser ar sut y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y sŵn a’r egni cadarnhaol a grëwyd drwy Wythnos Cymru yn Llundain i helpu cefnogi’r gwaith rhyfeddol a gymerwyd gan y sector elusen yng Nghymru.

“Felly, pleser o’r mwyaf oedd dewis Felindre fel ein Partner Elusen Swyddogol ar gyfer 2019. Gŵyr pawb am y gwaith anhygoel a wnânt wrth helpu trin cancr a gofalu am y sawl yr effeithir arnynt gan yr haint ofnadwy hwn; ac felly edrychwn ymlaen at eu cefnogi mewn unrhyw fodd a allwn.

”Mae ein ffrindiau yn Felindre yn gweithio ar raglen digwyddiadau cyffrous eu hunain, i ddigwydd yn Llundain yn ystod Wythnos Cymru, rhaglen y gwyddom y bydd yn codi ymwybyddiaeth bellach o’r gwaith rhyfeddol a wnânt ac yn y pen draw yn datblygu ymgysylltiadau yn eu gweithgareddau a chyfranogi i’w hymgyrchoedd codi arian parhaus.”

Meddai Andrew Morris, Pennaeth Codi Arian yng Nghanolfan Cancr Felindre, “Fel prif Ganolfan Cancr Cymru, rydym yn falch o gael ein dewis fel partner i Wythnos Cymru yn Llundain a defnyddio’r cyfle i amlygu’n gwaith.

“Gwyddom fod gan nifer o bobl sy’n byw yn Llundain anwyliaid a gafodd gofal a chymorth gennym yn Felindre, a chyda cyfleuster newydd yn cael ei greu yn yr ychydig flynyddoedd i ddod, rydym yn benderfynol i gyflawni’n cyrchnod o Drechu Cancr.

“Edrychwn ymlaen at ymwneud â’r nifer o’r gweithgareddau cyffrous sydd eisoes ar y gweill, a gweithio gyda’n Noddwyr a Llysgenhadon presennol a chefnogwyr newydd gyda digwyddiadau ychwanegol newydd.”

Bydd Wythnos Cymru yn Llundain yn digwydd ar draws Llundain o 23 Chwefror i 8 Mawrth 2019. Caiff y wefan newydd gyda manylion rhaglen digwyddiadau’r flwyddyn nesaf ei lansio ym mis Hydref www.walesweek.london

NODIADAU I OLYGYDDION

Felindre yw Prif Ganolfan Cancr Cymru, yn darparu gofal, cymorth a thriniaeth i gleifion cancr a’u teuluoedd am fwy na 60 o flynyddoedd.

Felindre, Ysbyty Gobaith, yw prif ddarparwr radiotherapi a thriniaethau gwrth-gancr arbenigol eraill yng Nghymru. Mae cael mynediad i radiotherapi yn hanfodol wrth wella deilliannau cleifion ar gyfer cancr.

Rydym ni oll yn gwybod am deuluoedd, ffrindiau ac anwyliaid sydd wedi dioddef cancr.

Mae achosion cancr yn cynyddu 2% bob blwyddyn yng Nghymru gyda bron i 20,000 o bobl wedi’u diagnosio â’r salwch hwn bob blwyddyn, ac erbyn 2020 bydd un o bob dau ohonom wedi dioddef o gancr a bydd 150,000 o bobl yn byw gyda diagnosis presennol neu gynt o’r haint hwn.

Fodd bynnag wrth i staff Felindre ymdrechu bob dydd i gyflawni’r gwasanaethau cancr gorau drwy ofal arbennig, bydd mwy o bobl nag erioed yn byw gyda chancr - mae cyfraddau goroesi wedi dyblu yn ystod y 40 mlynedd diwethaf drwy driniaethau gwell a’i ganfod yn gynharach.

Rydym am arwain wrth gyflawni a datblygu gofal cancr tosturiol ac effeithiol i’r unigolyn i gyflawni deilliannau sy’n gymharol â’r gorau yn y byd.

Defnyddir y rhoddion a gaiff Felindre i ariannu’r pethau sy’n fwy na’r hyn a gaiff ei ddarparu gan y GIG, felly mae codi arian yn wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gleifion a’u teuluoedd.

Ein nod yw darparu’r gofal gorau, pan fo ar bobl ein hangen fwyaf.

Llywydd:
Jonathan Davies OBE

Is Lywydd:
Roy Noble

Noddwyr:
Brynmor Williams
Carolyn Hitt
James Dean Bradfield
Martyn Williams
Mike Hall
Rhod Gilbert
Sam Warburton
Shane Williams