Mae Wythnos Cymru Llundain, y rhaglen flynyddol fwyaf o ddigwyddiadau yn dathlu a hybu Cymru, yn bwrw’r cwch i’r dŵr y penwythnos hon, ar gyfer ei seithfed blwyddyn yn olynol.

Gan redeg am bythefnos tan ddydd Sul 5 Mawrth, bydd Wythnos Cymru Llundain yn cyflenwi amserlen oddeutu 100 o weithgareddau a digwyddiadau o gylch cyfnod Dydd Gŵyl Dewi; gyda’i gilydd yn helpu dathlu etifeddiaeth a diwylliant Cymru, gan gofio ei diwrnod cenedlaethol, a hybu Cymru fodern i weddill y byd.

Mae rhaglen 2023 yn cynnwys digwyddiadau’n ymwneud â busnes, menter cymdeithasol, egin fentrau, arloesedd a chyllid, technoleg, pensaerniaeth, celfyddyd, miwsig a chân, sgrîn, iaith, llywodraeth, chwaraeon, bwyd a diod, cyfweliadau gyda bobl enwog, adloniant, theatr a mwy.

Mae’n adeiladu ar lwyddiant y chwe mlynedd diwethaf, y mae lliawst o enwogion, busnesau, sefydliadau chwaraeon, celfyddydau, bwyd a llywodraeth Gymreig a phartneriaid rhyngwladol yn y blynyddoedd hynny wedi cyfrannu at arddangos Cymru i gynulleidfa gyfunol oddeutu 56,000, mewn tua 540 o ddigwyddiadau mewn mwy na 80 o fannau cyfarfod gwahanol ledled Llundain.

Cafodd Cadeirydd y fenter Wythnos Cymru, Dan Langford, ei orlethu gan faint y diddordeb a ennwyd gan y rhaglen eto eleni, meddai; “Bob blwyddyn rwy bob amser yn cael fy synnu gan y brwdfrydedd anhygoel y parhawn i’w weld gan bob un o’n partneriaid, trefnwyr digwyddiadau a ffrindiau – rhai hir-sefydledig sydd yn ymuno ag Wythnos Cymru Llundain bob blwyddyn; a noddwyr, trefnwyr digwyddiadau a chefnogwyr rydym yn eu denu bob blwyddyn. Rwy’n wirioneddol yn teimlo’n wylaidd o’r herwydd, ac mae bob amser yn rhoi hwb gwirioneddol i’n paratoadau pan wyddom gymaint o egni a syniadau maen nhw’n ei gynnig. Mae eu cyfraniad parhaus mewn gair yn anhygoel, ac mae’n hanfodol i lwyddiant barhaus y fenter.”

Bydd Wythnos Cymru Llundain hefyd yn gweithio’n glos gyda grwpiau Cymry ar wasgar yn Llundain, a chyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel ei gilydd. Eleni, mae amserlen y digwyddiadau’n cynnwys derbyniadau Dydd Gŵyl Dewi yn cael eu cynnal gan lywodraethau’r Swistir, Ffrainc ac America, wrth iddyn nhw’n hael edrych i ymuno â’u ffrindiau a’u partneriaid Cymreig, i nodi achlysur dydd cenedlaethol Cymru.

Aeth Langford ymlaen, “Partneriaethau yw Wythnos Cymru yn y bôn; rydym yn dennu a cyfuno ewyllys da, dychymyg ac egni cymaint o bobl a sefydliadau bendigedig o dan un faner Wythnos Cymru, yr ydym drwyddi’n eu hyrwyddo yn ogystal â’u brandiau a’u gweithrediadau, a gyda’n gilydd byddwn yn codi maint aruthrol o sŵn.

“Bydd hyn yn gyrru’n pwrpas o gofio dydd ein nawddsant, gan ddathlu diwylliant ac etifeddiaeth Gymreig, a hybu Cymru fodern i weddill y byd.”

Mae noddwyr newydd ar gyfer 2023 yn cynnwys Gerald Eve, Admiral, Atradius, RBC Brewin Dolphin a Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae menter Wythnos Cymru hefyd wedi ymestyn i leoliadau eraill o gwmpas y byd; gan redeg rhaglenni Wythnos Cymru’n gydamserol ar gyfer lleoedd megis Efrog Newydd, Hwngari, Berkshire, Paris, Kansas, New England, Melbourne, Osaka, Ohio, Tokyo, Dulyn, Iran, British Columbia, Newcastle, Pittsburgh; ac am y tro cyntaf eleni, mae wedi ymestyn i Detroit, Las Vegas ac ar draws gogledd ddwyrain Lloegr.

Ychwanega Langford, “Bydd ein cyrchfannau byd-eang yn newid bob blwyddyn gan ddibynnu ar argaeledd ein ffrindiau a’n gwirfoddolwyr, ond mae gennym nifer cynyddol o bobl ledled y byd gyda diddordeb o ymuno â ni i redeg rhaglen Wythnos Cymru yn eu cynefin – rydym yn dibynnu ar eu hamser, ewyllys da a’u hegni, y maen nhw’n gwirfoddoli bob blwyddyn. Mae mor ostyngedig i ddennu pobl mor dda i gyfranogi fel hyn – ac wrth wneud hynny maen nhw’n lysgenhadon gwych dros Gymru ledled y byd.

Eleni, mae Wythnos Cymru Llundain hefyd wedi cefnogi maint cynyddol o weithgarwch elusennol, megis noddi rhaglen Cefnogi Ysgol ar gyfer 2B Enterprising a’i ganolfan yn Abertawe, i gyflenwi sesiynau gweithgarwch yn Ysgol Gymraeg Llundain; noddi Arddangosfa Gelf Gymreig a gynhelir yng Nghanolfan Cymry Llundain, a chyda chymorth Lexington Corporate Finance, mae wedi cydweithio gyda’r arlunydd Cymreig, Nichola Hope, wrth gyhoeddi llyfr ar gelf a barddoniaeth Cymreig, gyda’r holl enillion o’r gwerthiant yn mynd i Felindre. Yn y blynyddoedd diweddar, mae Wythnos Cymru Llundain mor belled wedi helpu codi oddeutu £125,000 ar gyfer ei helusen dynodedig, Felindre.

Cynhaliwyd Wythnos Cymru Llundain gyntaf yn 2017, ac fe’i sefydlwyd gan ymgynghorydd marchnata a chyfathrebu, Dan Langford, a Mike Jordan, Rheolwr Gyfarwyddwr yr asiantaeth brandio blaenllaw, Bluegg.