Bydd y rhaglen flynyddol fwyaf o ddigwyddiadau’n dathlu a hybu Cymru’n digwydd am yr 8fed flwyddyn yn olynol dros y pythefnos o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi, o 24 Chwefror i 9 Mawrth 2024.
Yn naturiol, ar gyfer 2024 y cynllun yw adeiladu ar lwyddiant y rhaglen eleni, a oedd yn cynnwys 111 o weithgareddau a digwyddiadau yn ystod Wythnos Cymru Llundain, yn ogystal â 60 o weithgareddau a digwyddiadau mewn mannau eraill ledled y byd gydag Wythnosau Cymru’n cael eu cynnal hefyd ar gyfer Efrog Newydd, Berkshire, Iran, Hwngari, Kansas, New England, Pittsburgh, North East England, Detroit ymysg eraill, fel rhan o raglen gyffredinol Wythnos Cymru Fyd-eang.
Eisoes yn ystod y digwyddiadau eleni rydym wedi denu partneriaid newydd a nifer o gynhalwyr digwyddiadau newydd yn bwriadu ymuno â ni ar gyfer y flwyddyn nesaf. Gyda’n cynhalwyr digwyddiadau arferol, a’r nifer cynyddol o bobl fendigedig sydd yn cyflenwi’n rhaglenni Wythnos Cymru o gwmpas y byd, gallwn synhwyro’n barod y bydd Wythnos Cymru 2024 yn rhaglen egnioledig arall, gan greu trwst Cymreig byddarol.
Meddai Cadeirydd y fenter, Dan Langford, “Rhaglen Wythnos Cymru yw’r un flynddol fwyaf o ddigwyddiadau sydd yn dathlu a hybu Cymru, a chanlyniad ymdrech enfawr ar y cyd yw ei llwyddiant – canlyniad uniongyrchol pawb sydd yn ei chefnogi, y rhai a ddaw a’u syniadau a’u gweithgareddau i’r amserlen, a’r miloedd ar filoedd o bobl sydd yn ei mynychu, yn ymwneud â hi ac yn helpu i arddangos yr hyn a wnawn.”
Bob blwyddyn bydd amserlen y gweithgareddau a’r digwyddiadau yn ystod Wythnos Cymru’n helpu dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru, dydd ei nawddsant a hybu Cymru fodern i weddill y byd.