• Dyddiad
    1st Mawrth 2023 at 03:00yp
  • Man cyfarfod
    Gerald Eve, One Fitzroy, 6 Mortimer Street, London W1T 3JJ
  • Gwesteiwr
    Gerald Eve and The Skills Centre
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Mae angen i’r DU helpu ymladd newid hinsawdd a’r argyfwng tai a gwireddir hynny drwy sicrhau bod cronfa o bobl ifanc dawnus yn cael eu dwyn i ddiwydiant ffyniannus yr amgylchedd adeiladu.

Seminar yw hon a gynhelir gan bartneriaid Wythnos Cymru Llundain, Gerald Eve a’r Ganolfan Sgiliau – dau fusnes gyda phresenoldeb helaeth yn Llundain, a chyda seiliau Cymreig dwfn.

Bydd panel o arbenigwyr yn trafod diweddariadau ym myd addysgu a hyfforddi pobl ifanc, gan sicrhau bod ganddyn nhw’r sgiliau i ddatrys problemau’r dyfodol, ac yna ceir cyfle i rwydweithio.

Bydd y seminar yn trafod cyflwyniad TGAU yn yr Amgylchedd Adeiladu yng Nghymru, yn ogystal ag ailsefydlu gradd achrededig RICS yng Nghymru. Bydd hefyd sgwrs ar y sgiliau adeiladu sydd eu heisiau yn y gweithlu modern, gan gynnwys prentisiaethau a arweinir gan fusnes, a sut mae’r amgylchedd adeiladu yn llwybr gyrfa deniadol i bobl ifanc.

Y drefn: Seminar, gyda siaradwyr panel, ac yna rhwydweithio

Siaradwyr:

  • Sam Rees, Uwch Swyddog Materion Cyhoeddus, RICS Wales
  • Samantha King, Cyfarwyddwr Dosbarthu, Y Ganolfan Sgiliau
  • Helen Edwards, Partner, Gerald Eve Swyddfa Caerdydd
  • Elinor Weekley, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru
  • Daniel Benham, Sefydlydd a Phrif Bensaer, Benham Architects
  • Victoria Hills, Chief Executive, Royal Town Planning Institute