Taith o amgylch Primrose Hill gyda’n cŵn, gan ddysgu am yr ardal a’i chysylltiadau â Chymru, a dysgu rhai geiriau Cymraeg hefyd.
Dewch â’ch cyfeillion pedair coes a gadewch iddyn nhw fwynhau bore o hwyl i’w boddhau ynghyd â gwers Gymraeg fer ar gopa Primrose Hill (cofeb Iolo Morganwg), copa sydd yn cynnig un o chwech olygfa warchodedig o Gadeirlan St Paul.
Peidiwch â cholli allan ar y daith wych hon er budd cŵn a gaiff eu hachub yng Nghymru gydag Elusen Good Wash Charity.
Yr holl arian i Many Tears Rescue yn Sir Gaerfyrddin.
Sylwer: Taith gymedrol yw hon oddeutu dwy filltir a thua awr o hyd – yn dibynnu ar amlder y gwyntio ar y ffordd.
Gall y cŵn fod heb dennyn am ran fwyaf o’r daith os dymunir, gyda rhai heolydd bach i’w croesi a darn byr o balmant. Bydd y daith yn ein cymryd i gopa Primrose Hill, heibio i Sw Llundain, i ganol Regent’s Park ac yn ôl i bentref Primrose Hill, yn fwrlwm gan fwytai a siopau sydd yn croesawu cŵn.
Fe’ch gwelaf chi yno!