Horizons/Gorwelion yn cyflwyno: TRAMPOLENE, Dactyl Terra & Telgate
Mae Horizons/Gorwelion yn gwirioni ar fod yn ôl yn Rough Trade East am noson arall i arddangos twf y ddawn gerddorol sydd ar hyn o bryd yn ymddangos yng Nghymru.
Fel rhan o Wythnos Cymru Llundain, bydd TRAMPOLENE Abertawe yn serenu’r digwyddiad arbennig rhad ac am ddim hwn i bob oedran.
Mae TRAMPOLENE wedi cyfansoddi clwstwr o ganeuon anghyffredin sydd yn sôn am ymdrechion dirfodol cyffredin breuddwydiwr heb yr un geiniog yn meddu ar gitâr swnllyd a llyfr llyfrgell gorddyledus yn unig.
Yn ymuno â TRAMPOLENE mae’r rocwyr seic gosmig ac enillwyr Green Man Rising 2022, Dactyl Terra, a band Aggro-Glam cwiar gwbl anymddiheurol, TELGATE.
Cynllun a gyflenwir gan BBC Cymru Wales yw Horizons/ Gorwelion mewn partneriaeth gyda Chyngor Celfyddydau Cymru i feithrin miwsig newydd, annibynnol, cyfoes yng Nghymru.