Mae Tîm Cymru a Mauve Group yn falch iawn i'ch croesawu i noson ysbrydoledig sy'n dathlu arweinyddiaeth Cymru ar lwyfan y byd trwy chwyddwydr busnes, chwaraeon a diwylliant byd-eang.
Gan archwilio rhagoriaeth Cymru ar draws yr agweddau deinamig yma, bydd y digwyddiad cyffrous hwn yn dwyn ynghyd panel unigryw o arweinwyr chwaraeon a busnes elitaidd, gan gynnwys:
- Colin Jackson CBE, Yn enwog am ei dalent fel camwr dros y clwydi 100m dros yrfa dros 20, hawliodd Colin nifer o fuddugoliaethau yn cynrychioli Cymru a Phrydain Fawr, gan gynnwys medal arian Olympaidd, pencampwr dwbl y Byd a'r Gymanwlad, a record drawiadol sydd dal heb ei threchu ym Mhencampwriaethau Ewrop, gan ennill pedwar teitl yn olynol.
- Ann Ellis, Prif Swyddog Gweithredol a chyd-sylfaenydd menter Adnoddau Dynol a chyflogaeth byd-eang, Mauve Group
- Helen Philips MBE, Is-lywydd Rhanbarthol Ewrop - Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad, Llywydd - Tîm Cymru, Llywydd – Gymnasteg Prydain, chwaraewr sboncen rhyngwladol a derbynnydd MBE am wasanaethau i gymnasteg
- Katie Sadleir, nofiwr cydamserol Olympaidd, enillydd medal Gemau'r Gymanwlad, a Phrif Swyddog Gweithredol presennol Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad.
Mae'n bleser gennym eich croesawu yn un o leoliadau lletygarwch mwyaf hanesyddol Llundain, “The Ivy” ar West Street. Ar ôl cyrraedd y lleoliad unigryw ‘The Loft’ sydd yn rhan o’r Clwb Ivy, gall gwesteion ddisgwyl cael eu cyfarch gyda canapes tymhorol a dewis o luniaeth.
Bydd y noson yn gweld ein panel uchel ei barch yn trafod eu teithiau unigryw rhyfeddol i gynnig golwg gwerthfawr i wytnwch, y gallu i addasu a'r dewrder i gymryd risgiau ym myd chwaraeon, busnes a thu hwnt.
Dilynir y drafodaeth oleuedig hon gan sesiwn o ‘Holi ac Ateb’, lle gall mynychwyr y noson ddarganfod mwy am gyfoeth profiad y panelwyr unigol a'r hyn y gellir ei ddysgu o'u straeon ysbrydoledig.