Dathlu rôl Penseiri Cymreig . . .
- Anerchiad brecwast
- Gweithdy prynhawn
- Arddangosfa gyda’r hwyr
Am yr ail flwyddyn yn olynol rydym yn cynnal digwyddiad pensaernïol yn Wythnos Cymru Llundain.
Fel yn 2022 byddwn yn cynnal arddangosfa gyda’r hwyr (19:00- 23:00), yn arddangos gwaith penseiri Cymreig, sydd â chysylltiad â’r brifddinas.
Rydym yn ffodus iawn eto eleni i fanteisio ar ofod y brif oriel yn y RIBA.
Yn wahanol i’r llynedd bydd y lle gennym drwy’r dydd eleni, a byddwn yn trefnu dau ddigwyddiad pellach – un yn y bore (10:00-12:00) ac un yn y prynhawn (14:00-17:00).
- 10.00yb - 12.00yp Anerchiad Brecwast:
Yr Economi Gylchol a Phensaerniaeth:
Wrth ymwneud ar thema economi gylchol, gwnawn archwilio gwaith Penseiri Cymreig. Yn dechrau gyda 15-munud o gyfarfod a chyfarch am 10:00yb.
Bydd gennym bump siaradwr, a chadeirydd i drefnu trafodaeth. Gwnaiff pob siaradwr gyflwyno am 10-15 munud.
Yna bydd trafodaeth rhwng y cadeirydd a’r siaradwyr, ac yna sesiwn C&A o’r llawr.
Canlyniad y digwyddiad fydd dealltwriaeth gwell ynghylch y pwnc, a chyfle i rannu gwybodaeth.
- 2.00yp - 5.00yp Gweithdy Prynhawn
Adfywio / Yr Economi Gylchol:
Digwyddiad ymgysylltu â myfyrwyr fydd hwn, gyda gweithdy dwy awr / allbwn dylunio braslun; ond cyn hynny bydd brîff 15 munud, gydag adolygiad 45 munud ar y diwedd.
Bydd yr allbwn ar fwrdd A1 y grŵp, a aiff wedyn i’r arddangosfa gyda’r hwyr.
- 7.00yh - 11.00yh Arddangosfa gyda’r hwyr
Bydd yr arddangosfa yn arddangos gwaith penseiri Cymreig.
Fe gawn cyflwyniad 10 munud am 19:30yh
Croeso i bawb.