Mae asiantaeth cyfathrebu Golley Slater wedi comisiynu ymchwil, drwy Beaufort Research, i ddeall sut mae pobl yn Lloegr yn canfod Cymru ar draws amrywiaeth o fetrigau.
Gwnaiff y weminar hon eich tywys drwy ganlyniadau’r ymchwiliad a chynnig rhai meddyliau ar yr hyn yr allai’r canfyddiadau ei olygu o safbwynt busnes a marchnata.
Bydd hyn yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd yn gweithio ym myd cyfathrebu, polisi neu’n syml gyda diddordeb ym maes dadansoddi cynulleidfa.