• Dyddiad
    20th Chwefror 2025 at 06:30yp
  • Man cyfarfod
    InterContinental London, One Hamilton Place, Park Lane W1J 7QY
  • Gwesteiwr
    Wales Week London
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Ymunwch â ni ar gyfer noson ysblennydd o adloniant yn Noson Gala Wythnos Cymru Llundain!

Unwaith eto, i lansio rhaglen digwyddiadau 2025, rydym yn cynnal Cinio Gala Goreuon Cymru, yng ngwesty nodedig yr InterContinental, Park Lane ddydd Iau 20 Chwefror.

Bydd Noson Gala Goreuon Cymru’n noson llawn o ddiddanwch, gan gynnwys comedi, miwsig, chwaraeon a mwy!

Byddwch yng nghwmni’r digrifwr doniol iawn o Gymru, Robin Morgan, y perfformwyr theatr cerddorol cymeradwy, ‘Welsh of the West End’, a sêr chwaraeon Cymru, gan gynnwys athletwr rhyngwladol, pêl droediwr rhyngwladol, a’r chwaraewr rygbi rhyngwladol a chwaraeodd i Gymru ac i’r Llewod, Adam Jones.

Ein MC gwadd, arbennig ar gyfer y noson yw’r darlledwr chwaraeon o fri, Lauren Jenkins – ac i gloi’r noson gyda set DJ, bydd y DJ o Gymru a adnabyddir yn rhyngwladol, y bendigedig Katie Owen!

Gobeithio’n fawr y byddwch am fod yn rhan o’r noson arbennig hon – i neilltuo’ch byrddau, cysylltwch â events@engagesport.com.

Cafodd y digwyddiad ei ddatblygu’n glos gyda’n partner Wythnos Cymru Llundain, Phillips Wellbeing Services, ac fe’i gefnogir yn hael hefyd gan Ethos-Chain, Browne Jacobson a Bute Energy, a’i gydlynnu gan y tîm yn Engage Sport.

Byddwn yn codi arian ar gyfer dau elusen sydd a’u canolfan yng Nghymru – ‘St David’s Hospice Care’ ac Ymddiriedolaeth y Dyn Gwyrdd.

Neilltuwch le yn awr i osgoi siom – edrychwn ymlaen yn fawr i’ch gweld yno!