• Dyddiad
    28th Chwefror 2023 at 07:00yp
  • Man cyfarfod
    London Welsh Centre, 157-163 Grays Inn Road, London WC1X 8UE
  • Gwesteiwr
    Amgueddfa Cymru – Museum Wales
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Noson arbennig gan Amgueddfa Cymru fydd yn cynnwys sgwrs gyda Noel Mooney (Cymdeithas Bêl-droed Cymru), Rhuanedd Richards (BBC Cymru), Heledd Owen (Llywodraeth Cymru) a Nia Williams (Amgueddfa Cymru) gydag Ian Gwyn Hughes (Cymdeithas Bêl-droed Cymru).

Ymunwch â ni i glywed mwy am lwyddiant Cymru wrth gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2022, a sut y daeth chwaraeon a diwylliant ynghyd i ddathlu a gwerthu'r Gymru gyfoes a'i gwerthoedd i'r byd. Bydd y panel yn trafod gwaddol taith Cymru a buddion ehangach partneriaethau mwy hirdymor i Gymru.

⁠Mae Lleisiau'r Wal Goch, ⁠⁠ arddangosfa Cwpan y Byd Amgueddfa Cymru, yn rhoi sylw i bobl a chymunedau'r Wal Goch. Mae i’w gweld yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru tan 17 Ebrill 2023.

Mae’n bleser gan Amgueddfa Cymru gynnal ei digwyddiad cyntaf yn Wythnos Cymru yn Llundain. Rydym yn falch o ddechrau ein dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yng Nghanolfan Cymry Llundain, cartref Y Wal Goch yng nghanol Llundain.

Y Panel:

  • Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
  • Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr, BBC Wales
  • Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg a Rhaglenni Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru
  • Heledd Owen, Cyfarwyddwr Marchnata, Twristiaeth a Busnes, Llywodraeth Cymru
  • Ian Gwyn Hughes (Cadeirydd), Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus, Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Manylion y Digwyddiad:

7.00pm: Drysau’n agor

7.30pm: Trafodaeth banel

8.30pm: Sesiwn Cwestiwn ac Ateb

9.00pm: Derbyniad diodydd

Gorsaf agosaf: Kings Cross, Russell Square