• Dyddiad
    1st Mawrth 2021
  • Gwesteiwr
    Velfrey Vineyard, Pembrokeshire
  • Categori
    Bwyd A Chrefftau

Am eich cyfle i ennill potel, cymerwch ran yn ein cystadleuaeth ddifyr Facebook.

Ewch i dudalen Facebook Velfrey Vineyard. Dyfalwch sgôr y gêm Chwe Gwlad rhwng Yr Eidal a Cymru, tagiwch ffrind, a chi efallai fydd ein henillydd lwcus.

Nid ydych ar Facebook? Does dim ots – anfonwch e-bost i info@velfrey.com gyda’ch cynnig sgôr. Pob lwc!

Gwin Pefriol Velfrey – Cynnig Arbennig Wythnos Cymru Llundain!

(Cynnig ar gael tan 12 Mawrth.)

Gwin pefriol newydd gan brif winllan Sir Benfro – gostyngiad, bellach, o 5% i ddathlu Wythnos Cymru Llundain!

Ewch i Velfrey Vineyard a defnyddio’r cod ‘WWL5’ wrth dalu.

Y Winllan: Wedi’i sefydlu yn 2016, mae Gwinllan Velfrey ar lethr wastadol yn wynebu at y de yn Lampeter Vale yn nhiroedd gwledig hardd De Sir Benfro. Mae gennym fwy na 4000 o winwydd wedi’u plannu ar draws 3 erw.

Enw: Velfrey Traditional Method Quality Sparkling Wine

ABV: 11.5%

Gwinwydd: Chardonnay, Pinot Noir, Seyval Blanc

Aeddfedu: 18 mis ar waddod (burum); ildio Tachwedd 2020

Dogn: 8g/litr (brut)

Awgrym gwres gweini: Oddeutu 6°C. Wedi’i oeri’n dda ond gadewch iddo sefyll am 10 munud allan o’r oergell er mwyn i chi allu gwerthfawrogi’r blasau’n llawn.

Nodweddion: Mae’n arllwys yn fyrlymus ac mae ganddo loywder rhagorol. O’i arogli mae’n flodeuol gan flodau’r ysgawen, gellygen a nectarîn. Wrth ei flasu, mae eirin gwlanog aeddfed gyda ffrwythau sitrws yn treiddio drwodd. Mae rhywfaint o gymhlethdod a hyd wirioneddol dda. Mae’r dull traddodiadol (eplesiad eilaidd yn y botel, ac yna cyfnod o aeddfedu gyda burum) yn darparu blasusrwydd cyfoethog tebyg i frioche. Cydbwysir hyn gan asidedd amheuthun braf. Yn gryno, gwin pefriol ardderchog gwirioneddol.

Awgrymiadau cydweddu â bwyd: Yn berffaith wrth ei hunan fel diod wrth ddathlu, neu fel aperitif, mae Velfrey hefyd yn mynd yn dda gyda physgod a physgod cregyn, yn enwedig wystrys. Gall fynd gyda phryd cyw iâr â saws ac mae ei ffresni’n ei helpu i dorri drwy fwyd cyfoethocach fel bol porc. Yn wirioneddol amlochrog ac yn dibynnu ar hoffter - rydym hyd yn oed wedi’i fwynhau gyda physgodyn a sglodion!

5% o ostyngiad i Wythnos Cymru Llundain – defnyddiwch y cod WWL5 wrth dalu. Caiff ei ddosbarthu’n rhad ac am ddim o archebu 6 neu fwy o boteli.