• Dyddiad
    24th Chwefror 2025 at 07:30yp
  • Man cyfarfod
    The London Welsh Centre, 157-163 Grays Inn Road WC1X 8UE
  • Gwesteiwr
    London Welsh Centre
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

UNDER MILK WOOD by Dylan Thomas

Yn cael ei pherfformio’n SOLO gan Guy Masterson

Wedi’i chyfarwyddo gan Tony Boncza

Cerddoriaeth wreiddiol a Soundscape gan Matt Clifford (Rolling Stones)

Bellach yn ei unfed flwyddyn ar hugain, bydd dehongliad solo’r enillydd Gwobr Olivier, Guy Masterson, o gampwaith hudolus Dylan Thomas yn dychwelyd i Ganolfan Cymry Llundain wrth ddathlu Wythnos Cymru '25 ac yn syml, RHAID EI WELD I’W GREDU!

Wedi’i ysbrydoli gan ei wncwl enwog, yr actor chwedlonol Cymreig, Richard Burton – a arweiniodd ei darllediad cyntaf ar BBC World Service ym mis Ionawr 1954 – mae’r cynhyrchiad arobryn hwn bellach wedi’i berfformio mwy na 2000 o weithiau ledled y byd ers 1993 o Gaeredin i’r West End, Efrog Newydd i Seland Newydd, Hong Kong i Calcutta gan gyfareddu cynulleidfaoedd lle bynnag ei berfformiwyd.

Wrth amlygu cof rhyfeddol a hyfedredd corfforol, bydd Masterson yn ailgreu pob un o 69 o drigolion afieithus, bendigedig Dylan Thomas yn gyfan gwbl ei hun! Wedi’i ategu gan ‘soundscape’ syfrdanol, gwreiddiol Matt Clifford, bydd y dehongliad solo, unigryw hwn yn gwneud i’r geiriau ganu!

Mae’n anniwair ac yn hardd, trist a synhwyrus a, drwy fiwsig iaith, bydd yn gadael delweddau bythgofiadwy, annileadwy o ddynol ryw. Bydd harddwch a meistroliaeth chwarae ar eiriau Thomas ynghyd â dehongliad Masterson yn eich gwirioni!

★★★★★ "If you've never seen 'Under Milk Wood' before, this is perhaps the ultimate rendition. Don't miss it!" (The Times)

★★★★★ "It's a feat of multiple characterisation impeccable timing, vocal dexterity and precise physical control, performed with tremendous sensitivity and panache!" (The Guardian)

★★★★★ "Absolutely wonderful, intensely therapeutic, intensely uplifting! Guy Masterson is something exceptional!" (BBC Radio Scotland)