Gyda 70% o bobl yng Nghymru yn cytuno y dylai elusennau ddefnyddio’r Gymraeg, does dim syndod bod cymaint o elusennau mawr yn gweld y gwerth mewn cynnig gwasanaethau Cymraeg. Fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain, hoffai Comisiynydd y Gymraeg eich gwahodd i glywed sut mae elusennau fel NCPCC a Barnardos wedi elwa o wella eu gwasanaethau Cymraeg. Bydd cyfle hefyd i gwrdd gyda swyddogion Comisiynydd y Gymraeg sydd yn gallu cynnig cymorth ymarferol i'ch elusen. Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn noddi te bach Cymreig i ddilyn y sesiwn, bydd hyn yn gyfle i chi rydweithio. Anelir y sesiwn at swyddogion o brif swyddfeydd elusennau y DU sy’n gweithredu yng Nghymru, a byddem yn gwerthfawrogi pe byddai uwch reolwr o'ch prif swyddfa DU, ac, os yn bosib, cynrychiolydd o'ch swyddfa yng Nghymru yn gallu mynychu.
|