• Dyddiad
    25th Chwefror 2025 at 09:30yb
  • Man cyfarfod
    Lockton Companies LLP, The St Botolph Building, 138 Houndsditch, London EC3A 7AG
  • Gwesteiwr
    PureCyber
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Fel rhan o Wythnos Cymru Llundain, fe greuodd PureCyber, Lockton, a Browne Jacobson raglen fore o areithiau ysbrydoledig ar wytnwch a thwf i ddechrau’ch diwrnod.

Cyfle gwych i ddwyn cydweithwyr, cysylltiadau a chleientiaid ynghyd i feithrin cysylltiadau a dathlu Wythnos Cymru Llundain 2025.

Ymunwch â ni o 9.30yb ym mhencadlys Lockton London ar gyfer brecwast blasus a rhwydweithio, ac yna, cyfle i glywed a dysgu gan ein harbenigwyr gwytnwch busnes.

Bydd y bore’n cloi gydag araith gymhelliant gan ein prif siaradwr, y cyn peldroediwr Cymreig, proffesiynol, rhyngwladol a chwaraeodd dros Arsenal a West Ham, sefydlydd elusen a goroeswr cancr, John Hartson, a fydd yn bersonol yn siarad am Feithrin Meddylfryd Gwydn.

Rhaglen:

9.30yb – Cyrraedd, brecwast a rhwydweithio

10.15 - Cyflwyniadau panel:

  • Croesawu a Chyflwyno - Jack Bassett, Swyddog Proffesiynol VP a Gweithredwr Risg, Seibr a Thechnoleg, Lockton
  • Gwytnwch ar gyfer Twf Busnes - Hannah King, Buddsoddwr, BGF
  • Gwytnwch Seibr – yr Hwyluswr Twf Busnes - Damon Rands, Prif Weithredwr, PureCyber
  • Tyfu a Meithrin Timau Gwydn - Laura Hughes, Pennaeth IPR & Gweithredwr Arweiniol Caerdydd, Browne Jacobson LLP

10.50yb – Prif Siaradwr:

Meithrin Meddylfryd Gwydn - John Hartson

Mae John Hartson yn enwog am ei yrfa fel peldroediwr proffesiynol dros Gymru, Celtic, Arsenal a West Ham. Wedi ennill 51 o gapiau rhyngwladol dros Gymru, ymddeolodd John o chwarae a daeth yn byndit teledu i sianelu megis Sky Sports, Premier Sports TV, BT Sport a S4C.

Yn ystod ei yrfa pêl-droed llwyddiannus, goroesodd John drallod mawr, o gael ei ddiagnosio â chancr y ceilliau yn 2009. Fe ymestynodd y cancr yn rhaddol i’w ymennydd a bu rhaid iddo gael niwro-llawdriniaeth ar frys.

Gyda gwytnwch a phenderfyniad a ddangosodd ar y meysydd chwarae, gwynebodd John yr haint wyneb i wyneb, gan dderbyn cemotherapi a llawdriniaeth â gwytnwch nodedig. Drwy driniaeth a chyda dyfalbarhad, trechwyd y cancr.

Bydd John yn rhannu’i brofiad personol a chyngor ar wytnwch.

11.20yb – Diolch a sylwadau i gloi

Tocynnau cyfyngedig ar gael – neilltuwch eich lle cyn gynted a gallwch.

Mae’r llefydd yn y digwyddiad yn rhad ac am ddim a’r cyntaf i’r felin fydd hi.