• Dyddiad
    21st Chwefror 2024 at 07:30yp
  • Man cyfarfod
    London Welsh Centre, 157-163 Grays Inn Road, London WC1X 8UE
  • Gwesteiwr
    London Welsh Centre
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Mae Martin, a chwaraeir gan Keiron Self (My Family, High Hopes) yn dod i Ganolfan Cymry Llundain ym mis Chwefror i gyflwyno’i ffilm. Prosiect perfformio gwneud ffilm / byw unigryw yw’r sioe arobryn hon.

Mae’n ddoniol hefyd… ac yn ychydig daeogaidd.

Gwaith ar y cyd yw rhwng Keiron (cyd-awdur The Canterville Ghost) a Kevin Jones (awdur Cardiff Boy a golygydd-enillydd Bafta Cymru o’r Sŵn).

Ffilm Martin:Efallai bod YouTube a TikTok yn ymddangos fel cyfrwng i unigolion ifanc, ond nid i Martin Decker 50+ oed. Mae wedi dechrau gyrfa newydd sbon fel seren rhyngrwyd tra enwog. Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio bu’n gwneud sioeau teledu a wnaed gartref yn ei ystafell ymolchi. Ond er iddo honni fod cefnogaeth lawn ei deulu ganddo, chwâl ei fywyd yn deilchion. Mae bellach yn destun ffilm sydd yn rhannol ddogfen a rhannol gomedi trasig swrrealaidd. Gyda mynediad llawn i’w holl fideos, cyfweliadau cefnogwyr ac adolygwyr, deunydd ar ffilm a darganfyddwyd, a hyd yn oed animeiddiadau, ymchwilir i gymhellion a chynhyrfiadau creadigol Martin. Mae ganddo’r angen i gysylltu ond pwy yw ei gynulleidfa darged wirioneddol – ei gefnogwyr neu’i deulu?

Mae ffilm Martin yn cynnwys llu o ddoniau actorion o Gaerdydd (Lynne Seymour, Richard Elis, Kev McCurdy, Elin Phillips, Francois Pandolfo). Yn ogystal â chyflwyno’r ffilm, bydd Martin hefyd ar gael ar gyfer C&A byr wedi’r ffilm os bydd rhywun yn dymuno’i holi am ei ddawn sinematig athrylithgar.

Datganiad Artistig – Martin Decker

“Orson Welles was 25 when he made Citizen Kane. I’m over 50, so my film will at least be twice as good.”

Heb ei graddio – ychydig o iaith anweddus a themau i oedolion. (cynghorir 15 oed)

90 o funudau, gan gynnwys C&A

Cyfarwyddwr: Kevin JonesCynhyrchwyr: Keiron Self, Kevin Jones