• Dyddiad
    4th Mawrth 2021 at 03:00yp
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    Hugh James
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Os ydych yn arlunydd, dyluniwr neu wneuthurwr ar eich liwt eich hun, efallai eich bod yn gwerthu’ch celfwaith ar-lein. Efallai bod COVID-19 wedi’ch gorfodi i ymuno â’r farchnad ddigidol, gyda chyfyngiadau’n rhoi stop i ffeiriau masnachu a sioeau lleol gwirioneddol.

Er y gall fod yn gymharol hawdd i sefydlu gwefan a llwyfan e-fasnach y dyddiau hyn, ni ŵyr na ddeallir bob amser, y gofynion cyfreithiol ac ariannol. Eto gall anwybyddu gofynion pwysig ynghylch gwerthu o bell, treth, data a chontractau faglu gwerthwyr wrth y rhwystr cyntaf.

Yn Hugh James, rydym yma i helpu llenwi’r bwlch gwybodaeth.

Rydym wedi gweithio ar y cyd â firstofmarch.com – llwyfan ar-lein yn gwerthu crefftwaith Cymreig cain – ac arbenigwyr TAW annibynnol, Centurion, i ddod â chyfres o fideos i chi i’ch helpu i’ch darparu â’r wybodaeth i werthu’n ddiogel ar-lein.

Wedi’i sefydlu gan Ruth Davies yn 2019, mae First of March yn arddangos gwneuthurwyr o ystod o ddisgyblaethau crefft yng Nghymru – celf & cherflunio; gemwaith o waith llaw; pethau i’r bwrdd; llenni a deunyddiau a ffasiwn. Fel i nifer eraill, bu rhaid i Ruth a’u gwerthwyr lywio’u ffordd trwy’r tirlun cyfreithiol ac ariannol i arddangos eu crefftwaith.

Yn y fideos hyn, bydd Ruth yn rhannu ei phrofiad o sefydlu’i llwyfan ar-lein moethus, wrth i gyfreithwyr o Hugh James ac arbenigwyr TAW yn Centurion, gynnig eu mewnweliadau cyfreithiol ac ariannol.

Yna, yn ystod Wythnos Cymru Llundain, byddwn yn cynnal gweminar C&A fyw, i roi cyfle i chi gyflwyno’ch cwestiwn i’n panel.

Ymunwch â ni ar gyfer y cyfle rhyngweithiol hwn i dreiddio’n bellach i’r agweddau allweddol y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

Bydd ein harbenigwyr yn cynnig eu harbenigedd, yn mynd i’r afael â’ch ymholiadau a’ch cyfeirio at wybodaeth a chymorth pellach.