Drwy ei raglen 'Cefnogi Ysgol', mae 2B Enterprising yn cyflwyno’i ail sesiwn gweithgaredd i’r plant yn Ysgol Gymraeg Llundain.
Yn seiliedig ar y llyfr ‘Hornet Scramble’, bydd y bobl ifanc yn cyfranogi yn y weithgaredd ‘Friendship Hands’ – gan nodi yr hyn sydd yn gwneud ffrind da a sut allwn fod yn fwy meddylgar, ystyrlon a chalonogol i’n cyfoedion.
Elusen addysg yw 2B Enterprising a’i chanolfan yng Nghymru, a’i chenhadaeth yw codi dyheadau pobl ifanc wrth eu cyflwyno i brofiadau bywyd gwerthfawr a sgiliau allweddol. Mae Wythnos Cymru LLundain ar y cyd ag Ysgol Llundain, fel rhan o’u hymrwymiad i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr a rheolwyr. Bydd Ysgol Llundain yn elwa gan fynediad i lu o nwyddau buddiol ac adnoddau ar-lein, gan gynnwys llyfrau, cyflwyniadau a chynlluniau gwersi yn ogystal â thri sesiwn cyflwyno, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydym wedi ysgrifennu cyfres o lyfrau creadigol sydd yn sbarduno’r meddwl o’r enw ‘The Bumbles of Honeywood'. Bydd y storiau hyn yn trosglwyddo’n darllenwyr i fyd mentrus y teulu Bumble – gan rannu gwersi gwerthfawr a ddysgwyd yn ystod eu teithiau a’u heriau gyda’u ffrindiau yn Honeywood. Mae’r themau’n cynnwys cynaladwyedd, lles, cynhwysiad ac amrywiaeth.
Ochr yn ochr â’r llyfrau stori hyn mae adnoddau corfforol a digidol ar gyfer athrawon ysgol gynradd i ategu datblygiad sgiliau menter yn y dosbarth.
Adnoddau menter – gan weithio gydag arweinyddion addysg a gweithwyr proffesiynol menter, rydym wedi creu portffolio o adnoddau i feithrin sgiliau menter pobl ifanc.
Sesiynau gweithgaredd – byddwn yn cyflwyno sesiynau menter sydd yn ysgogi ac ysbrydoli pobl ifanc a datblygu meddwl entrepreneurial. Bydd ein tîm yn cyflwyno tri sesiwn deniadol i bob ysgol gynradd – gan ysbrydoli pobl ifanc i feithrin meddwl entrepreneurial.
Corfforaeth i’r dosbarth – byddwn yn paru busnesau gydag addysg er mwyn rhoi cefnogaeth ariannol i’r rhaglen yn ogystal â gwireddu sgiliau menter yn y dosbarth.