Mae Richard Rhys O’Brien yn awdur dau lyfr diweddar ar Margaret Lloyd George (Llywydd cyntaf Canolfan Cymry Llundain, 1921-1922)
Yn “The Woman Who Helped Win the War - The Welfare Campaigns of Margaret Lloyd George, 1914-1918” disgrifir ei chwe phrif ymgyrch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf: Cronfa'r Catrodau Cymreig; Cymdeithas y Morwyr Prydeinig a Thramor; recriwtio i'r Fyddin Gymreig; Bwyd ac Economi'r Cartref; Dirwest; Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r gyfrol yn edrych hefyd ar ei hymgyrchu dros ferched, eglwysi a Chymru.
Mae “The Campaigns of Margaret Lloyd George - The wife of the Prime Minister 1916-1922” yn ddadansoddiad manwl o fywyd cyhoeddus y Fonesig Margaret yn ystod ei chyfnod yn wraig i Brif Weinidog Prydain, David Lloyd George gan ganolbwyntio ar ei ymgyrchu wleidyddol yn ystod cyfnod 1916-1922, rôl ddigynsail a bron heb ei hail gan briod Prif Weinidog. Mae Richard yn olrhain ei hymgyrchu ar y llwyfan gwleidyddol ar draws y wlad ac hefyd y nifer o leoedd yn Llundain lle bu’n ymgyrchu, o Romford i Hanwell, Hampstead i Camberwell, a strydoedd Canol Llundain.
Yn hyn oll fe’i chefnogwyd gan daid Richard, y Parch. J.T. Rhys, ei hysgrifennydd preifat yn Rhif 10 ac aelod gweithgar o gymuned Cymry Llundain. Mae’r archif o lythyrau ac areithiau a adawodd ar ei ôl wedi rhoi sylfaen berffaith i Richard i gloddio’n ddyfnach ym mywyd Margaret Lloyd George.






































