Ymunwch â’r cyfarwyddwr o Gymro, Sean Mathias, sydd yn cael clod gan bawb ar gyfer darlleniad drama arbennig o Swansea Boy — stori bwerus a phersonol wedi’i gwreiddio yn hunaniaeth, lle a phrofiad Cymreig.
Gydag Abertawe’n gefndir iddi, mae’r ddrama’n archwilio’r themau o berthyn, atgofion a dylanwad ffurfiannol cartref, teulu a chymuned. Yn bersonol ac yn adfyfyriol, mae Swansea Boy yn cynnig portread cyffrous o fywyd dyn ifanc yng Nghymru a dylanwad parhaol y wlad honno arno — lle bynnag y bo.
Mae’r darllediad hwn yn cyflwyno cyfle prin i fwynhau gwaith newydd sydd yn cael ei arwain gan un o unigolion mwyaf clodwiw Cymru o ran y theatr. Mae ei yrfa’n cynnwys y West End, Broadway a llwyfannau rhyngwladol. Bydd y digwyddiad o ddiddrodeb i’r sawl sy’n gwirioni ar y theatr, ysgrifennwyr, pobl greadigol ac unrhyw un sy’n hoffi storïau a diwylliant Cymreig.
Cyfraniad meddylgar a grymus i raglen Wythnos Cymru, gan ddathlu lleisiau Cymreig ar y llwyfan yn Llundain.
Am Sean Mathias:
Mae Sean Mathias yn Gyfarwyddwr Theatr Brydeinig, Cyfarwyddwr Ffilmiau ac Ysgrifennwr. Mae wedi gweithio yn y Royal National Theatre, y West End, y Kennedy Centre, The Mark Taper Forum, Off-Broadway a nifer o weithiau ar Broadway, yn ogystal â Paris, Sydney, Cape Town, Johannesburg, San Francisco ac yn eang yn y Deyrnas Unedig.
Mae wedi ysgrifennu nifer o ddramau, gan gynnwys y ddrama arobryn, A Prayer for Wings, a’r sgript ffilm ar gyfer y ffilm arobryn y BBC, The Lost Language of Cranes.
Yn 2009/2010 Sean oedd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Royal Haymarket a bu ei gynhyrchiad chwedlonol o Waiting for Godot yn rhedeg am ddau dymor yn y theatr, yn ogystal â theithio ledled y DU ac yn rhyngwladol. Yn 2013 cyfarwyddodd a chynhyrchu ar y cyd Two Plays in Rep, yn cynnwys Godot Beckett a No Man’s Land Pinter ar Broadway yn y Cort Theatre. Ei gynhyrchiad o No Man’s Land, gyda Ian McKellen a Patrick Stewart yn serennu ynddi, oedd y ddrama a enillodd yr arian mwyaf yn hanes Wyndham’s Theatre. Ym 2019 cyfarwyddodd ddangosiad cyntaf yn y DU o ddrama Martin Sherman, Gently Down the Stream yn y Park Theatre ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn honno cafodd ei gynhyrchiad A Prayer For Wings ei throsglwyddo o’r Grand yn Abertawe i’r Kings Head Theatre. Hefyd yn 2019 cyfarwyddodd Ian McKellen Onstage a deithiodd ledled y DU a bu am dymor yn y Pinter Theatre, gan godi yn syfardanol bum miliwn o bunnoedd ar gyfer elusennau theatr. Yn ystod tymor cyntaf Sean fel Cyfarwyddwr Artistig y Theatre Royal Windsor, fe gynhyrchodd Hamlet a The Cherry Orchard, gydag ensemble o actorion yn cael eu harwain gan Ian McKellen a Francesca Annis.
Cyfarwyddodd y ffilm arobryn Bent.
Mae wedi ennill amryw o wobrau gan gynnwys The Standard Award, WhatsOnStage Award, Cardiff International Film Festival Award, y Critics’ Circle Award, Fringe First at Edinburgh a’r Prix de la Jeunesse yn Cannes. Fe’i enwebwyd ar gyfer Olivier Award a’r Tony Award.







































