• Dyddiad
    27th Chwefror 2025 at 06:30yp
  • Man cyfarfod
    Florence Nightingale Museum, St Thomas’ Hospital, 2 Lambeth Palace Road SE1 7EP
  • Gwesteiwr
    Call of the Wild
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Cefnogi Arweinwyr y Dyfodol: Menywod yn Arwain – trafodaeth banel unigryw fel rhan o Wythnos Cymru Llundain

Ymunwch â ni ar gyfer noson ysbrydoledig o drafodaeth, mewnwelediadau a rhwydweithio, wrth i ni ymchwilio i’r heriau a’r cyfleoedd yn wynebu menywod heddiw ym maes arweinyddiaeth.

Panelwyr a gadarnhawyd:

· Panel: Dr Carol Bell – Aelod Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Aelod Cyngor o Research England, ac Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol y Labordy Ffisegol Cenedlaethol

· Eraill i’w cyhoeddi maes o law.

· Hwyluswr: Robert Lloyd Griffiths OBE – Cyfarwyddwr ICAEW Cymru a Chadeirydd Busnes Cymru.

Y pynciau trafod allweddol:

· Gorchfygu’r heriau sydd yn wynebu menywod ym maes arweinyddiaeth heddiw

· Datblygu llwybrau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fenywod sydd yn arweinwyr

· Rhan amrywiaeth a chynhwysiant ym maes datblygu arweinwyr

· Mewnweliadau a gwersi personol yn sgil teithiau gyrfa’n panelwyr o fri

Bydd y Florence Nightingale Museum, yn adeilad yr hanesyddol St Thomas’ Hospital, yn darparu cefndir priodol ar gyfer ein sgyrsiau.

Fel y gwnaeth Florence Nightingale chwyldroi nyrsio a chwalu’r rhwystrau yn ei chyfnod, bydd ein digwyddiad yn canolbwyntio ar rymuso menywod i orchfygu heriau, arwain yn bwrpasol ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

Dyma gyfle unigryw i glywed gan arweinwyr diwydiant, ymwneud â deialog ystyrlon, a chysylltu ag unigolion proffesiynol cytûn.

Mae’r llefydd yn gyfyngedig, a thrwy wahoddiad yn unig. Os oes diddordeb gennych, cysylltwch â ni drwy’r ddolen uchod.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar y diwrnod.