• Dyddiad
    20th Chwefror 2025 at 12:00yp
  • Man cyfarfod
    IFX, 33 Cavendish Square, London, W1G 0PW
  • Gwesteiwr
    HEXA Finance & IFX Payments
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Fel rhan o Wythnos Cymru Llundain, bydd HEXA Finance ac IFX Payments yn rhedeg trafodaeth ford gron unigryw ar fanteisio i’r eithaf o ran twf a lleddfu risg drwy gyllid strategol ac atebion talu.

Digwyddiad drwy wahoddiad yn unig yw hwn, yn dwyn ynghyd grŵp bach o arweinwyr busnes i drafod sut y gall BBaCh gael mynediad at arian y tu hwn i lwybrau ariannu traddodiadol – wedi’u hadeiladu ar sail ymddiriedaeth, perthnasau, cyflymdra a phrofiad.

Bydd y sesiwn hon yn archwilio:

  • Ariannu’r tu hwnt i’r llwybrau traddodiadol – yr hyn sydd ar gael ar gyfer twf ac adariannu
  • Rheoli risg ym myd masnach byd-eang – cefnogi mewnforwyr, allforwyr a chadwynau cyflenwi
  • Strategaeth FX ar gyfer sefydlogrwydd a phroffidioldeb – lleihau anwadalwch a gwella maint

Nid trafodaeth banel arferol fydd hon – sgwrs ryngweithiol, breifat yw, lle caiff yr unigolion gwadd y cyfle i ymwneud yn uniongyrchol ag arbenigwyr diwydiant a chyfoedion cytûn.

Gyda dim ond 15 lle ar gael, cafodd ei threfnu i fod yn drafodaeth gwerthfawr â ffocws, yn hytrach na digwyddiad ar raddfa fawr.

Daw’r sesiwn i ben mewn da bryd i’r rheiny sydd yn mynychu Noson Gala’r ‘Gorau o Gymru’ Wythnos Cymru gyda’r hwyr – felly bydd amser gennych i ddychwelyd i’ch gwesty a pharatoi am noson fendigedig.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Os oes diddordeb gennych i ymuno â ni, rhowch wybod i mi cyn gynted a phosib, gan fod y llefydd yn gyfyngedig.