Mae Ashoka a Cwmpas yn eich gwahodd i ymuno â digwyddiad hac flasu yn canolbwyntio ar greu cenhedlaeth o wneuthurwyr newid.
Mae ein digwyddiadau 'Dechrau Rhywbeth Da' yn dwyn pobl ynghyd i ddatblygu syniadau newydd i ddatrys y problemau yr ydym oll yn pryderu amdanyn nhw.
Bydd y sesiwn flasu hon yn rhoi mewnwelediad i chi i’n hymagwedd arloesol i gyfarparu ac ysbrydoli gwneuthurwyr newid y dyfodol mewn cymunedau a byd addysg a busnes.
Rhydd y noson brofiad i chi o lygad y ffynnon o’n hymagwedd wahanol i ddylunio ar y cyd, cydweithio, ennyn syniadau, a dod o hyd i atebion drwy broses di-gystadleuaeth, agored a charedig. .
Yn y sesiwn hon gwnawn archwilio saith piler y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a sut allwn ddefnyddio dull yr Hac Caredigrwydd™ i sbarduno newid cadarnhaol a pharhaol.
Ar ôl y sesiwn, bydd gan gyfranogwyr ddealltwriaeth o fuddion yr Hac Caredigrwydd™ wrth iddyn nhw ystyried dechrau rhywbeth da.