Gan na ellid colli’r cyfle hwn i goffau Dydd Gŵyl Dewi Sant gyda’n gilydd, rydym yn hynod o falch i gael eich hysbysu y byddwn unwaith eto eleni yn cynnal Dathliad Dydd Gŵyl Dewi.
Eleni, fodd bynnag, ni allwn ond dathlu o glydwch ein cartrefi, Mae Dathliad Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain wedi bod yn ganolbwynt i’r Cymry yn Llundain er 1904. Covid ai peidio, gall fod unwaith eto . . .
Ar nos Lun, y cyntaf o Fawrth, mi fyddwn yn cyflwyno noson o adloniant gyda lleisiau Welsh of the West End. Y darlledwr gwleidyddol adnabyddus, Guto Harri fydd yn llywio’r digwyddiad gyda’r Athro Mererid Hopwood yn cynnig llwncdestun i goffadwriaeth Dewi Sant.
'Gwnewch y pethau bach' yw geiriau enwocaf Dewi Sant, ac efallai ei fod nemor ystum fach ym myd hynod newidiol Covid, ond gobeithio y byddwch yn medru ein helpu i barhau â thraddodiad cynnal Dathliad Gŵyl Dewi yn Llundain trwy brynu tocyn, gwisgo cenninen Pedr, ac ymuno â ni am noson o ddathliad Cymreig.
Bydd yr holl elw yn mynd tuag at gefnogi perfformwyr Welsh of the West End a bydd cyfle i roi rhodd pellach i gefnogi’r sêr Cymreig aruthrol o dalentog rhain Bydd cyfle hefyd i gefnogi ein partner elusennol, Sefydliad Cymunedol Cymru.