• Dyddiad
    1st Mawrth 2021 at 08:30yb
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    Bouygues UK
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Mae Bouygues UK yn dathlu’n nawddsant, Dewi Sant, yn ôl yr arfer ond eleni digwyddiad rhithiol fydd e i ni, ac i hwyluso’n dathliadau a thrafod ‘yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymro ar Ddydd Gŵyl Dewi’ rydym wrth ein bodd mai Eleri Sion, y cyflwynydd teledu a radio, yw ein siaradwr gwadd.

Mae Bouygues UK yn falch ei fod wedi bod â swyddfa rhanbarthol yng Nghymru am fwy na 10 mlynedd. Bouygues UK yw un o gwmnïau adeiladu blaenllaw’r wlad. Mae’n canolbwyntio ar sectorau lle gall ychwanegu gwerth trwy arbenigedd technegol, sgiliau a phrofiad Bouygues UK a’r Grŵp Bouygues byd-eang. Mae’r rhain yn cynnwys prosiectau preswyl ac addysgol yn ogystal â phrosiectau dyrys eu technoleg ar draws sectorau lle gellir manteisio i’r eithaf ar arbenigedd y cwmni.

Ni fydd gwesteion yn colli’r cyfle i fwynhau brecwast Cymreig traddodiadol Bouygues UK, eleni buom yn gweithio gyda Bocs Bwyd, menter gymdeithasol a’i chanolfan yn y Barri, i greu basgedi brecwast Cymreig blasus, a chânt eu dosbarthu i’n gwesteion.

Gan barhau i gefnogi’n helusen ddetholedig, bydd gan westeion y cyfle i weld rhywfaint o’r gwaith rhyfeddol a ymgymera Llamau, ei chenhadaeth yw dileu digartrefedd i bobl ifanc a menywod mewn cymunedau ar draws Cymru, ac yn y cyfnod hwn y gellir dadlau bod angen cymorth ar bobl ifanc a menywod bregus, cymorth corfforol ac emosiynol fel ei gilydd, yn fwy nag erioed.

Yn ystod y pandemig COVID19, bu angen y cymorth y gall Llamau ei gynnig ar bobl yn fwy nag erioed. Mae’r galwadau i’w Llinell Gymorth Cam-drin Domestig wedi dyblu, tra bod ei Wasanaeth Cam-drin Domestig wedi gweld cynnydd o 123% yn y galw amdano ers i’r cyfyngiadau symud ddod i rym.

Yn ein barn ni, nid oes cyfle gwell i gynnig ein cefnogaeth.