• Dyddiad
    7th Mawrth 2019 at 06:30yp
  • Man cyfarfod
    Brand Exchange, 3 Birchin Lane EC3V 9BW
  • Gwesteiwr
    Brand Finance
  • Categori
    Bwyd A Chrefftau

Blasu dan diwtor gyda Rheolwr Gyfarwyddwr Distyllfa Penderyn, Stephen Davies.

I ddathlu Wythnos Cymru yn Llundain, mae Cyfnewidfa Brand ar y cyd â Distyllfa Penderyn yn cynnal noson o flasu wisgi mwyaf enwog Cymru. Mae Penderyn yn nodedig am ei wisgi brag sengl, sydd wedi ennill gwobrau, ac sy’n cael ei ddistyllu ger pen deheuol Bannau Brycheiniog. Gyda hanes distyllu yng Nghymru yn mynd yn ôl i’r bedwaredd ganrif, mae gan y wlad draddodiad wisgi rhyfeddol o amrywiol. Nid oes ffordd well o ddathlu Wythnos Cymru na gyda gwydraid o’r wisgi coethaf yn eich llaw.

Bydd y Prif Weithredwr, Stephen Davies, yn trafod hanes a dyfodol Distyllfa Penderyn (gyda rhywfaint o flasu yn ogystal wrth gwrs!). Yn ystod y noson cewch y cyfle i flasu amrywiaeth o wisgi brag sengl Penderyn a fydd yn wirioneddol yn dangos cymeriad ac ansawdd eu proses gostrelu. Dim ond lle i 30 o bobl yn unig sydd i’r digwyddiad hwn - ac i ddigwyddiad mor boblogaidd gwnewch yn siŵr i neilltuo’ch lle ar unwaith!

Pris mynediad yw £20 y person - caiff yr holl elw o’r digwyddiad hwn ei roi i Ganolfan Gancr Felindre, sydd yn darparu gwasanaethau cancr arbenigol i 1.5 miliwn o bobl yn Ne Ddwyrain Cymru a thu hwnt.

Os hoffech fod yn bresennol yn y digwyddiad hwn, cysylltwch â l.jones@brandexchange.com

Wedi’i sefydlu gan Gymro (Trefdraeth, Sir Benfro) David Haigh, Brand Finance yw’r ymgynghoriaeth strategaeth a gwerthuso nodedig annibynnol blaenllaw’r byd. A’i ganolfan yng Nghyfnewidfa’r Brand; adeilad rhestredig wedi’i ail wampio yn Ninas Llundain, mae ei dîm arbenigol yn bresennol mewn 20 lleoliad o gwmpas y byd.