Beth am roi hwb i’ch gyrfa ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd a chanfod sut mae’r rhanbarth yn cynnig bywyd o ansawdd rhagorol i raddedigion fyw, gweithio ac astudio. Ymunwch â ni i ganfod sut mae Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a phrifysgolion blaenllaw yn ne Cymru yn darparu cyfleoedd bendigedig i ennill profiad, astudio, ymchwil a gwneud y gorau o’ch potensial.
Mae croeso cynnes Cymru, ei diwylliant cyfoethog a’i bywyd cymdeithasol, a chyfoeth o dirluniau naturiol ac arfordiroedd godidog yn cynnig ffordd arbennig o fyw. Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnig cost sylweddol ratach o fyw ar gyfartaledd ac yn cynnig cysylltiadau rhagorol â threfi a dinasoedd mawr eraill yn y DU.
Mae Cynllun Graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cysylltu graddedigion dawnus â busnesau uchelgeisiol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Cafodd y cynllun interniaeth arloesol a blaengar hwn sydd wedi’i dalu amdano ei gyflwyno i ddenu a chadw doniau’r graddedigion gorau o fewn y rhanbarth, gyda rolau yn amrywio o farchnata i beirianeg i ddatblygu meddalwedd, mewn sefydliadau amrywiol o gwmniau amlgenedlaethol mawr i sefydliadau sydd newydd sefydlu. Beth am ennill cymhwyster cydnabyddedig a chwrdd â graddedigion uchelgeisiol eraill ledled y rhanbarth.
Canfod mwy gan y graddedigion sydd eisoes wedi cymryd rhan a chanfod mwy o wybodaeth yn: https://www.ccrgraduatescheme.wales/graduates/graduates-overview
Oes diddordeb gennych mewn astudiaeth ac ymchwil pellach? Beth am glywed gan brifysgolion blaenllaw a’u canolfannau o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, y Brifysgol Agored yng Nghymru a Phrifysgol De Cymru) am eu cyfleoedd i astudio cwrs ôl-radd, cyllid ac ymchwil.
Beth am gerfio’ch dyfodol a gwneud eich marc ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd – cyrchfan o ddewis i raddedigion!