• Dyddiad
    4th Mawrth 2021 at 10:00yb
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    Darogan Talent
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Darogan Talent yw’r rhwydwaith swyddi i raddedigion Cymru, yn arddangos rhai o gyfleoedd gorau’r byd gwaith ar draws ein gwlad.

Wedi’i sefydlu gan ddau fyfyriwr Cymraeg yn Rhydychen yn 2018, mae Darogan wedi tyfu i fod yn blatfform ag aelodaeth gref o ran myfyrwyr a graddedigion ac yn sefydliad sydd â phartneriaethau gyda chyflogwyr blaenllaw Cymru gan gynnwys Admiral, Acorn Recruitment, PwC, M-SParc, New Directions, Menter Môn, Darwin Gray, JCP Solicitors, Penderyn Whiskey, Thomas Carroll, a Phrifddinas Ranbarth Caerdydd.

Yng nghyfres Wythnos Cymru yn Llundain eleni, mae Darogan wrth ei fodd i fedru cynnal digwyddiad ar y cyd â rhai o’i bartneriaid.

Dan gadeiryddiaeth y cyd-sylfaenwyr Theo Davies-Lewis ac Owain James, bydd y panel yn ystyried tueddiadau’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn yr economi ar gyfer graddedigion yng Nghymru, gan drafod sut y gall mater y ‘brain drain’ gael ei ddatrys yn ystod y degawd presennol. Bydd gwesteion Solving the Brain Drain: A discussion on Wales' graduate economy yn cynnwys:

  • Pavan Arora, Cyfarwyddwr Recriwtio, Acorn Recruitment
  • Leigh Hughes, Cadeirydd Cardiff Capital Region Skills Partnership
  • Ben Moriarty, Rheolwr Recriwtio Admiral Group Plc

Gellwch gofrestru er mwyn mynychu’r digwyddiad trwy’r linc ar y tudalen hwn, ac mae croeso i chi gysylltu â Darogan os bydd gennych unrhyw gwestiynau pellach.