Ymunwch â ni ar gyfer trafodaeth am yr heriau a’r cyfleoedd i Gymru mewn economi gwyrdd byd-eang.
Rhagolygir y bydd yr economi gwyrdd byd-eang yn cyrraedd gwerth $10.3 triliwn erbyn 2050. Beth all Cymru ddysgu gan wledydd a rhanbarthau eraill fel y sefydla ei hunan yn rhyngwladol a mapio llwybr tuag at ddyfodol cynaliadwy?
Bydd ein panel ar gyfer Wythnos Cymru Llundain yn dwyn profiad ynghyd o Ewrop, Gogledd America a Chymru i archwilio’r dulliau y gall cenhedloedd a rhanbarthau gyda phoblogaethau cymedrol eu cymryd i ddatblygu safleoedd arweiniol mewn economi gwyrdd byd-eang sydd yn gyflym dyfu.
Cyfarwyddwr Sefydliad Materion Cymreig, Auriol Miller, fydd wrth y llyw.
Bydd ein panel yn cynnwys:
· Dominic Toupin, Cyfarwyddwr Materion Economaidd, Swyddfa Québec yn Llundain
· Kellie Beirne, Prif Weithredwr, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
· Aleena Khan, Comisiynydd, Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
· Cynrychiolydd Cyngor Masnach Danaidd
Trafodaeth banel a C&A, ac yna rhwydweithio a lluniaeth ysgafn.