Mewn cysylltiad â Gŵyl Roundhouse Rising, cyfres o gigs cerddorol yw Roundhouse Rising Presents, yn arddangos artistiaid dawnus ac addawol. Gyda blits o sioeau gan artistiaid o bob math, ôl bync, krautrock neu reim, croesawn garwyr cerddoriaeth newydd i ddarganfod yr artistiaid newydd mwyaf addawol yng ngofod ein stiwdio. Mewn partneriaeth â Horizons/Gorwelion, cynllun a gyflenwyd gan BBC Cymru Wales mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu cerddoriaeth gyfoes, annibynnol, newydd yng Nghymru. Perfformiadau gan gymysgwch eclectig o ddoniau o Gymru: Minas, Clwb Fuzz, Tara Bandiito ac YazMean
Y perfformwyr
MInas
Minas yw’r prosiect gan y cerddor a’r cynhyrchydd o Gaerdydd, James Minas.
Adrodda’i ganeuon hanesion gorffennol braith dros gymysgwch o dirluniau sŵn melodus dwfn a stanzas ymosodol uchel. Gan gwmpasu pynciau o frwydrau personol gydag iechyd meddwl i ddod o hyd i le yn y gymdeithas sydd ohoni. Mae Minas ochr yn ochr â’i fand byw yn meithrin enw da am eu sioeau ffyrnig a bywiog ac mae 2022 yn addo bod y flwyddyn fwyaf cyffrous eto iddyn nhw.
Fel cynhyrchydd mae James yn meithrin sŵn newydd o amgylch sîn de Cymru a thu hwnt gyda nifer o artistiaid yn cwmpasu genres gwahanol, ond fel artist mae e’n cyflwyno gonestrwydd cignoeth, gan fynd yn erbyn ei amddiffynfeydd naturiol i gyflwyno’r fersiwn mwyaf bregus ac agored o’i hunan.
Cafodd Minas ei eni yn Athens, fe dyfodd i fyny yn y syrcas gyda rhieni a oedd yn ymwneud yn fawr gyda’r sîn pync yn y 1980au ac yna symudodd i Gymru yn ei arddegau. Nod Minas yw creu cerddoriaeth sydd yn trafod y pethau hyn ac yn ei sgil yn gadael teimlad ymgrymus o obaith, rhywbeth sydd ei eisiau arnom i gyd ar hyn o bryd.
Clwb Fuzz
Aelodau Clwb Fuzz yw Joe Woodward (gitar a lleisiau), Emily Kocan (bas & lleisiau), Hayden Lewis (gitar), Gruff Roberts (drymiau) & Cam Wheeler (synth & offerynnau taro). Nhw yw’r bobl ifanc newydd yn y sîn llwyddiannus yng Nghaerdydd, sydd yn gartref i Buzzard Buzzard Buzzard, Boy Azooga a Perfect Body, ymysg eraill, ac mae eu dylanwad yn amrywio o’r Beach Boys a’r Kinks i Smashing Pumpkins & Spiritualized, ond y cyfan wedi’i fygu mewn fflywch tebyg i Black Sabbath neu Ron Asheton y Stooges.
Cafodd sengl flaenorol y band GOD (Let You Lose) ei rhyddhau yn nyddiau hwyr y llynedd a chafodd gefnogaeth gan bobl fel Huw Stephens (BBC Radio 6 Music), Emily Pilbeam (BBC Introducing) & NME, gyda’r olaf yn ychwanegu’r sengl i’w rhestr caneuon New Bangers.
Tara Bandito
Dechreuodd Tara berfformio pan oedd yn 5 oed. Merch y reslwr chwedlonol El Bandito, cwympodd i mewn i’r byd y galwn yn adloniant, heb y cyfle i dybio pam yn union roedd perfformio yn rhan mor anatod o’i phersonoliaeth. Ni ofynodd y cwestiwn dwfn hynny i’w hunan tan 2009 pan fu ei thad farw, ei harwr a’i hysbrydoliaeth, ac arweiniodd hynny hi ar daith, symbolig a llythrennol, i ddarganfod ei hunan a chychwyn taith Tara Bandito.
Gan ddod yn artist newydd ar Côsh Records ym mis Rhagfyr 2021, gan weithio gyda’r cynhyrchydd Rich James Roberts, recordiodd dair sengl yn hwyr yn 2021. Cafodd ei sengl gyntaf, Blerr, ei rhyddhau ar 14 Ionawr 2022, gyda fideo cerddoriaeth atodol wedi’i gynhyrchu gan Lŵp, ei gyfarwyddo gan Tara. Cafodd y sengl sylw eang ar ôl i’w chwarae gyntaf ar sioe Huw Stephens ar BBC Radio Cymru ac wedi hynny ar sioe Adam Walton ar Radio Wales ‘Welsh A-List’.
YazMean
Raper a adnabyddwyd yn gynt fel Shawgz yw YazMean, a’i chanolfan yng Nghymru, caiff ei hadnabod fel person lliwgar ar lwyfan gyda phersonoliaeth gref. Gan ddechrau ei gyrfa fel raper brwydr i Don’t Flop, troiodd YazMean ei llygad creadigol yn gyflym tuag at ddatblygu brand artist i’w hadnabod gan greu ei gwaith celf ei hunan a defnyddio cyfeiriad creadigol.
Yn 2018, rhyddhaodd YazMean ei EP BLK Tape ar rap yn seiliedig ar Fryste a’r label Negroaidd amgenach Issa Vibe a gafodd sylw BBC Radio Wales a’r casgliad o Gaerdydd, Ladies of Rage.
Yn 2019 rhyddhaodd YazMean nifer o senglau, gan gynnwys Nasty a recordiwyd yn stiwdio Da Beatfreakz yn Llundain yn dilyn ennill cystadleuaeth KA Sessions. Cafodd Nasty yn ddiweddar ei chynnwys ar BBC Introducing’s The Hot List, wedi’i ddethol gan DJ Jaguar. Yn y flwyddyn 2019 chwaraeodd YazMean yng ngŵyl The Great Escape yn Brighton, slotiau cefnogi gyda phobl fel Kae Tempest a Thaith Deyrnas Unedig Hip Hop y grŵp merched Queens of Art.
Yn 2020 cafodd YazMean gefnogaeth ariannol gan y cynllun BBC Gorwelion/ Horizons i ddatblygu ei EP newydd Vice City, sydd yn gweld YazMean yn ehangu ei sŵn ac yn arbrofi gyda’i rhythm a’i llif. Drwy ymgorffori tueddiadau cerddoriaeth boblogaidd gyfredol a’i threftadaeth Sudanese, mae YazMean yn llwyddiannus wedi creu sŵn unigol a ffres ar Vice City EP.