• Dyddiad
    1st Mawrth 2022 at 07:00yp
  • Man cyfarfod
    Roundhouse, Chalk Farm Road NW1 8EH
  • Gwesteiwr
    Roundhouse
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Bandicoot
Gan adfer barddoniaeth Dylan ar gyfer cenhedlaeth newydd, harddwrch pur a roc a rôl gwallgof canol y 70au John Cale, a chyfansoddi caneuon bythol melancolaidd Badfinger, dyma Bandicoot. Mae eu sŵn yn llifo fel blŵs ôl-ddiwydiannol drwy strydoedd concrît glawiog Abertawe. Enillodd Bandicoot enw da ffyrnig yn sgil eu sioeau byw gorlifol, cras sydd yn troelli mewn gorawen o ôl-bync a krautrock i glam stomp a sensitifrwydd celf-bop ar ddisgyniad nodyn.

Adwaith
Grŵp ôl-bync yw Adwaith o Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru. Mae eu holl ddeunydd wedi ennill clod beirniadaeth eang ac wedi’i chwarae yn eang ar y radio. Maen nhw wedi recordio sesiwn yn y stiwdios BBC chwedlonol yn Maida Vale, Llundain i Huw Stephens (BBC Radio 1 /BBC Radio Cymru), BBC 6 Sesiwn Fiwsig i sioe Marc Riley, wedi perfformio yn y Latitude Festival, Green Man Festival, wedi perfformio yn yr Eidal gyda Gruff Rhys yn y Suns Festival a chefnogi Gwenno a’r Joy Formidable ar deithiau llawn yn y Deyrnas Unedig. Cafodd ‘Gartref’ o’u halbwm cyntaf ‘Melyn’ ei ailgymysgu gan James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers.

Mace The Great
Mae Mace The Great yn rym cyffrous o Grime a Hip Hop, ac yn hannu o Gaerdydd, Cymru. O ennill y Triskel Award yng Ngwobr Miwsig Cymreig 2020, ac ennill cefnogaeth cwmniau fel BBC 1Xtra, BBC Cymru, ITV, S4C, a gŵyl arddangos a chenhadledd FOCUS Wales, mae Mace The Great bellach yn barod ar gyfer llwyddiant mawr yn 2022, pan gaiff eu halbwm gyntaf hir ddisgwyliedig ei rhyddhau, gan ddilyn llwyddiant beirniadaeth clodwiw ei EP ‘My Side Of The Bridge’, a ryddhawyd ym mis Mawrth 2021 drwy ei label MTGM.

Eädyth
Artist cyffrous sydd ar fin ymddangos yw Eädyth, sydd wedi mwynhau llawer o gyfleoedd cyffrous dros y flwyddyn a aeth heibio, yn sgil cael ei dethol yn artist Gorwelion BBC Horizons. Gwnaeth hi recordio yn y Rockfield Studios mawr ei fri, mae wedi perfformio mewn amryw o ddigwyddiadau a gwyliau, gan gynnwys yn y Senedd a Chanolfan Mileniwm Cymru ym mae Caerdydd, Festival No 6, Brecon Jazz Festival, Swn Festival, Festival of the Celts ac yn yr Eisteddfod. Cafodd ei miwsig hefyd gefnogaeth radio gan BBC Cymru, Radio Cymru, Kiss FM ac fe’i defnyddiwyd fel fideo hyrwyddo ar gyfer Cymdeithas Bêl Droed Cymru.