• Dyddiad
    14th Chwefror 2023
  • Man cyfarfod
    National Theatre, Upper Ground, London SE1 9PX
  • Gwesteiwr
    National Theatre a Sherman Theatre
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Premiere byd o ddrama newydd gan un o awduron mwyaf clodwiw Cymru. Mewn cyd-gynhyrchiad mawreddog rhwng y National Theatre a Theatr y Sherman.

Ysgrifennwyd gan Gary Owen

Cyfarwyddwyd gan Rachel O'Riordan

Callum Scott Howells fel Romeo

Rosie Sheehy fel Julie

Catrin Aaron, Paul Brennen, Anita Reynolds

Stori garu gyfoes o Gaerdydd wedi’i hysbrydoli gan ddrama Shakespeare, Romeo and Juliet.

Mae Romeo yn dad sengl sy’n dal ‘mlaen am ei fywyd. Mae Julie yn ymladd er mwyn dilyn ei breuddwyd o astudio yng Nghaergrawnt.

Dau o bobl ifanc Caerdydd wedi’u magu ychydig strydoedd ar wahân – ond o fydoedd cwbl wahanol – yn disgyn mewn cariad am y tro cyntaf ac yn cael eu bwrw oddi ar eu echel. Ond ar groesffordd bywyd, mae teulu Julie yn ofni’r gwaethaf mewn byd sy’n anghyfartal ei gyfleoedd.

Mae Romeo and Julie yn aduno’r bartneriaeth a fu’n deilwng o Wobr Olivier rhwng yr awdur Gary Owen a chyn Gyfarwyddwr Artistig y Sherman Rachel O’Riordan, a fu’n gyfrifol am y clasuron modern Iphigenia in Splott, Killology a The Cherry Orchard. Bydd cast rhagorol, y mwyafrif yn Gymreig, yn dod ynghyd ar gyfer y cynhyrchiad cyntaf yn y byd, gan gynnwys Callum Scott Howells (It’s A Sin Channel 4, Cabaret West End) fel Romeo a Rosie Sheehy (Bird Theatr y Sherman, All’s Well That Ends Well RSC) fel Julie, Catrin Aaron (The Lovely Bones Birmingham Rep, Missing Julie Theatr Clwyd), Paul Brennen (A Discovery of Witches Sky, Happy Valley BBC) ac Anita Reynolds (The Lion, the Witch and the Wardrobe Theatr y Sherman, A Monster Calls The Old Vic / Bristol old Vic).