• Dyddiad
    4th Mawrth 2021 at 05:00yp
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    PwC
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad Masnach PwC Wales y llynedd, ac fel rhan o’n nawdd parhaus o Wythnos Cymru Llundain, byddwn yn cynnal digwyddiad Seiber #TechEnableWales rhithiol ddydd Iau 4 Mawrth o 5-6pm.

Bydd Wythnos Cymru Llundain yn digwydd o 20 Chwefror i 7 Mawrth, ac mae’n sioe arddangos flynyddol o weithgareddau a digwyddiadau sydd yn dathlu a hybu Cymru ar ei gorau. Rydym yn gyffrous iawn i gynnwys y digwyddiad rhithiol hwn i hyrwyddo a dathlu’r holl bethau seiber yng Nghymru.

Yn ymuno â Chyfarwyddwyr Seiber PwC Wales, Rhodri Evans a Stuart Criddle, John Davies a Jason Davies, Cyfarwyddwyr CyberWales, a Pete Burnap, Athro Gwyddor Data & Diogelwch Seiber ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn ogystal â chlywed am fuddsoddiad PwC Wales ym maes gallu seiber, fe gewch glywed am y tueddiadau diweddaraf, y rheswm mai Cymru yw’r man perffaith i sefydlu cwmni seiber, a sut mae cwmniau a sefydliadau addysgol yn gweithio mewn partneriaeth i fwydo twf y diwydiant seiber yng Nghymru.

Bydd hefyd gyfle i ofyn cwestiynau i’n haelodau panel a rhannu’ch profiadau personol eich hun o’r sector hwn sydd yn blodeuo.