• Dyddiad
    28th Chwefror 2020 at 07:00yp
  • Man cyfarfod
    London Welsh Centre, 157-163 Gray’s Inn Road
  • Gwesteiwr
    London Welsh Centre, Wales Week London and @welsh_art
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Os ydych yn diddori mewn celf Gymreig gyfoes mae’r arddangosfa hon gan ganolfan Cymry Llundain yn gyfle gwych i chi gyfarfod â’r arlunwyr, gweld a phrynu darnau o’u gwaith!

Ac, os mai arlunydd Cymreig ydych chi, dyma gyfle bendigedig i arddangos eich gwaith i gynulleidfa sydd yn byw yn Llundain, gan gynnwys y nifer dirifedi o bobl Gymreig (rhyw 60,000+ yn Llundain!) sydd yn caru cael rhywbeth i’w hatgoffa am fro eu mebyd ac i foddhau’u hymwybyddiaeth greadigol a diwylliannol Cymreig.

Canolfan Cymry Llundain yw’r hyb diwylliannol Cymreig yn Llundain ac felly’n darparu’r man delfrydol ar gyfer cyfle bendigedig o’r fath i unrhyw un sydd yn gwirioni ar gelfyddyd Gymreig.

11.00yb - 5.00yp ar y ddau ddiwrnod.

Caiff pob darn o gelf ei werthu heb wobrwyo fel bo’r prynwr yn gwybod bod pob arlunydd yn cael yr elw llawn am eu llafur caled.

Gallwch ddilyn Welsh Art ar twitter fan’ma.

Edrychwn ymlaen at eich gweld yno.