Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad y llynedd, mae Bute Energy yn ôl ar gyfer Wythnos Cymru Llundain 2025, wedi’i rymuso gan ganiatâd y Llywodraeth ar gyfer ein fferm wynt 100MW Twyn Hywel yng Nghaerffili, a hyd at 1GW o geisiadau cynllunio i’w cyflwyno yn ystod 2025.
Bydd ein digwyddiad yn canolbwyntio ar botensial ein trosglwyddiad i ynni glân, a’r hyn y mae buddsoddiad Bute Energy yn ei gynrychioli i Gymru, ar gyfer cadwynau cyflenwi ac ar gyfer cymunedau. Byddwn yn arddangos ein gwaith cyffrous wrth fanteisio i’r eithaf ar y canlyniad cymdeithasol o ran ein buddsoddiad, a’r camau byddwn yn eu cymryd i greu llwybrau amrywiol a chynhwysol i yrfaoedd yn y sector ynni adnewyddadwy.
Mae portffolio Bute Energy o barciau ynni yn cynrychioli cyfraniad arwyddocaol i dargedau sero net Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig ill dau, gyda’r gallu i generadu digon o ynni glân i bweru mwy na 2.25m o gartrefi erbyn 2030.
Mae gennym gynllun, y buddsoddiad a gweithlu profiadol sydd yn benderfynol i gyflawni ar gyfer Cymru, ar gyfer yr amgylchedd ac ar gyfer dyfodol fwy cynaliadwy.
Drwy wahoddiad yn unig fydd y digwyddiad hwn, ond beth bynnag anfonwch e-bost at drefnydd y digwyddiad os dymunwch gofrestru’ch diddordeb.