Modelau newydd a chyffrous o dwf atgynhyrchiol yn ystwyrian yng nghefn gwlad Sir Penfro.
Trafodaeth banel bywiog gan arweinyddion, meddylwyr a gwneuthurwyr blaengar o faes llywodraeth, cyllid, academia a menter gwledig ar y ffactorau hanfodol y tu ôl i arloesi a thwf cynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru y tu hwnt i goridor yr M4. Gan gynnwys astudiaeth achos fyw o gymuned ffarmio glan y môr yn Sir Penfro.
Defnyddir mwy na 88% o dir yng Nghymru ar gyfer amaethyddiaeth – eto mae cryn dipyn o egni ar gyfer twf a syniadau yng Nghymru wedi canolbwyntio’n draddodiadol ar goridor yr M4, yn aml er anfantais i gymunedau amaethyddol anghysbell megis Sir Penfro. Yn yr ardaloedd hyn, roedd ffermio wrth wraidd gweithgareddau economaidd (ac yn dal i fod mewn llawer i fan), ond dros yr 20 mlynedd ddiwethaf mae wedi datgysylltu o’i gymunedau o gwmpas.
Fodd bynnag, mae modelau newydd a chyffrous o dwf atgynhyrchiol yn ystwyrian. Mae camau arloesi mewn tai call i hinsawdd, cynhyrchu ynni wedi’i bweru ar fferm, twristiaeth lles, crefftau crefftwrol a dysg cenhedlaeth y dyfodol yn gysylltiedig â natur yn dechrau ailgysylltu ac ymgysylltu gweithgareddau amaethyddol â’u cymunedau amgylchol mewn modd go iawn, creadigol a chynaliadwy. Mae gan y rhain botensial gwirioneddol i adfywio twf yng nghefn gwlad Cymru ac i arddangos yr arfer orau ar gyfer atgynhyrchu a menter gwledig ymhell y tu hwnt i’w ffiniau. Mewn amgylchedd ôl-Brexit yn fuan, mae’r rhain yn arwyddion hanfodol ar gyfer dyfodol adlamol ac uchelgeisiol.
Themâu allweddol:
- Yn draddodiadol pam mae cymunedau gwledig Cymru wedi colli’r cyfle o ran strategaethau twf Cymru hyd yn hyn a pham mae angen i hyn newid?
- Sut all gymunedau cefn gwlad a glan y môr gyfrannu i les Cenhedlaethau’r Dyfodol?
- Astudiaeth achos o gymuned amaethyddol cefn gwlad Cymru o ran syniadau blaen y gad ym maes tai, ffermio, twristiaeth ac addysg – wedi’i gysylltu â Deddf Lles y Dyfodol Cymru.