Menter ar y cyd yw Rhaglen Newport Place Busnes yn y Gymuned a lansiwyd ym mis Hydref 2022, menter wedi ei chynllunio i ddod â busnesau, sefydliadau cymunedol a phartneriaid sector cyheddus ynghyd i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac economaidd yng Nghasnewydd, Cymru.
Mae Casnewydd, Cymru yn mynd trwy drawsnewid deinamig.
Wedi’i llunio gynt gan waddol dirywiad diwydiannol, mae’r ddinas heddiw yn cofleidio gweledigaeth feiddgar ar gyfer twf cynhwysol, grymuso cymunedol ac adnewyddu trefol. Ymdrinnir yn uniongyrchol â heriau amddifadedd, a gafodd eu gwreiddio gan ffactorau economaidd, cymdeithasol a strwythurol, drwy strategaethau cydlynol sydd yn gosod Casnewydd fel dinas o gyfleoedd, creadigrwydd a dycnwch.
Bydd y derbyniad hwn yn arddangos yr effaith mae Busnes yn y Gymuned a’n partneriaid wedi’i wireddu yng Nghasnewydd, yn ogystal â thaflu golau ar bwysigrwydd cymryd ymagwedd gydweithredol i fynd i’r afael â heriau a chyflwyno canlyniadau llwyddiannus yr ymweliad King’s Seeing is Believing.
Gwnawn ddathlu cryfderau a photensial Casnewydd, amlinellu ein huchelgeisiau ar gyfer addysg, sgiliau, cyflogaeth, cymunedau a thwf economaidd a chydnabod y gefnogaeth sydd ei hangen arni gan y Llywodraeth, busnesau, a phartneriaid y tu fewn a thu allan y ddinas.







































