• Dyddiad
    1st Mawrth 2021 at 04:00yp
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    New Directions
  • Categori
    Chwaraeon

Ymunwch â New Directions am sgwrs gyda’r arwr rygbi i Gymru a’r Llewod, Ryan Jones.

I wthio’r cwch i’r dŵr cawn cipolwg yn ôl ar gemau’r Chwe Gwlad eleni, gan gynnwys wrth gwrs Cymru yn erbyn Lloegr a chwaraewyd dim ond dau ddiwrnod yn gynt – ac yna fe ofynnwn i Ryan i’n cymryd yn ôl i ddyddiau cynnar ei yrfa, gan rannu â ni ei gyfnodau amlycaf ac iselaf, ac efallai cipolwg y tu fewn i’r ‘ystafell newid’ i ddysgu mwy am y rheiny a’i ysbrydolodd, sut wnaeth ysbrydoli eraill a chlywed rhai o’r straeon digrifach o’i yrfa chwarae hir a chofiadwy.

Enillodd Ryan 75 o gapiau rhyngwladol i Gymru a thri chap prawf i’r Llewod. Dechreuodd ei yrfa chwarae yng Nghasnewydd yn 1998 a daeth honno i ben ym Mryste yn 2005. Mae Ryan yn un o ddim ond saith Cymro i ennill tair Camp Lawn, ac ef yw’r capten sydd wedi ennill fwyaf o gapiau i Gymru namyn un.

Ers ei ymddeoliad o chwarae rygbi, mae gyrfa Ryan wedi cynnwys dau gyfnod ar Fwrdd Gweithredol Undeb Rygbi Cymru; yn gyntaf fel Cyfarwyddwr dros Rygbi Cymunedol ac yn ddiweddar fel Cyfarwyddwr Perfformiad i’r Undeb Rygbi. Mae hefyd yn ymgymryd â gwaith rheolaidd i’r cyfryngau ac yn ddiweddar ymunodd â’r tîm yn New Directions, mewn rôl gymysg, gan gynnwys helpu datblygu a chyflenwi rhaglenni datblygiad personol a phroffesiynol New Directions ar gyfer eu cleientiaid, ymgeiswyr a staff.

Cydnabyddir Ryan fel rhywun sydd yn angerddol am alluogi eraill i ddatblygu ac iddynt lwyddo ar eu gorau glas – angerdd ac arbenigedd a ddaw i’w rôl yn New Directions.

Gwahoddir cwestiynau oddi ar y gynulleidfa o flaen llaw yn ogystal â thrwy’r teclyn sgwrsio yn ystod y digwyddiad ei hun.

Dyma wledd fawr i Gymru a chefnwyr chwaraeon o bob man – sgwrsio cartrefol iawn gydag arwr rygbi diamau Cymru, a bonheddwr gwirioneddol – gobeithio gallwch ymuno â ni!

Daw’r linnell neilltuo’ch lle i rym cyn hir.