Digwyddiad ar gyfer sefydliadau gwasanaeth gwaith adeiladu – ymunwch â’r Skills Centre a’r CITB / CITB Cymru i glywed mwy am Rwydwaith Cyflogwyr y CITB, rhwydwaith a ffurfiwyd yn ddiweddar, a sut y gall elwa’ch busnes.
Bydd y digwyddiad yn digwydd yn uchel i fyny ar dwr gwylio’r ArcelorMittal Orbit eiconig, sydd yn cael ei redeg gan y gweithredwr twristiaeth Cymreig, Zip World, lle caiff y gwesteiwyr hefyd eu gwahodd i lithro lawr llithren dwnnel dalaf a hiraf y byd, tra’n mwynhau golygfeydd syfrdanol Parc Olympaidd y Frenhines Elizabeth!
Menter a ariannir gan y CITB yw Rhwydwaith Cyflogwyr y CITB, a ddyluniwyd i symleiddio sut mae cyflogwyr adeiladu yn cael mynediad at hyfforddiant a chyllid. Mewn ymdrech i annog cyflogwyr i uwch sgilio’u gweithlu, mae’r CITB yn cynnig arian i fyny at £25,000 bob blwyddyn i bob cyflogwr cofrestredig i’w ddefnyddio tuag at ofynion hyfforddi.
Gan fod Rhwydweithiau Cyflogwyr y CITB yn gweithredu ar lefel lleol, maen nhw’n sicrhau bod yr hyfforddiant a gewch wedi’i deilwra i anghenion penodol eich rhanbarth a’ch diwydiant, a gall addasu yn ôl y galw.
A chaiff 70% o unrhyw hyfforddiant a neilltuwyd drwy’r Rhwydwaith Cyflogwyr ei ariannu gan y CITB.
Er bod y digwyddiad hwn wedi’i rhestru fel ‘drwy wahoddiad yn unig’, byddem wrth ein bodd yn clywed gan unrhyw un sydd yn rhan o’r diwydiant adeiladu, sydd efallai â diddordeb i fod yn bresennol – cysylltwch â ni drwy ddefnyddio dolen e-bost y trefnydd uchod.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i ddiwrnod buddiol, addysgiadol a llon!